Casgliad o unedau a ddiffiniwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Pwysau a Mesurau Lloegr o 1824 yw'r system o unedau imperial. Cyflwynwyd yr unedau yn y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau, gan gynnwys gwledydd y Gymanwlad (er bod y rhan fwyaf o'r wledydd hyn yn fetrig yn swyddogol), ond nid yn yr Unol Daleithiau, a oedd eisoes yn annibynnol bryd hynny.
Mesurau hyd [golygu]
Ar ôl 1 Gorffenaf 1959, fe ddiffiniwyd llath yr Unol Daleithiau a’r llath Brydeinig yn unfath (0.9144m) fel y llath ryngwladol.
Mesurau arwynebedd [golygu]
| 1 erw |
= 1 ystaden × 1 gadwyn |
= 1/640 o filltir sgwâr |
= 43,560 o droedfeddi sgwâr |
= ~0.4047 ha (hectarau) |
= ~4047 m² |
Mesurau cyfaint [golygu]
Yn 1824, mabwysiadodd Prydain y galwyn imperial, a fu'n seiliedig ar gyfaint 10 lb o ddŵr distylledig wedi'i bwyso mewn awyr â phwysau pres, a'r baromedr yn sefyll wrth 30 inHg (modfeddi o fercwri) â thymheredd o 62 °F. Newidiodd Deddf Pwysau a Mesurau o 1985 ddiffiniad galwyn i 4.54609L yn union.
| Uned |
Gwerth cymharol i'r peint |
Gwerth metrig |
| Owns hylif (fl oz) |
1/20 |
~28.41 ml |
| Gil |
1/4 |
~142.1 ml |
| Peint (pt) |
1 |
~568.2 ml |
| Chwart |
2 |
~1.136 L |
| Galwyn (gal) |
8 |
4.54609 L (yn union) |
Mesurau pwysau a màs [golygu]
| Uned |
Gwerth cymharol i'r pwys |
Gwerth metrig |
| Drachm |
1/256 |
~1.771 g |
| Owns (oz) |
1/16 |
~28.35 g |
| Pwys (lb) |
1 |
453.59237 g (yn union) |
| Stôn |
14 |
~6.35 kg |
| Chwarter |
28 |
~12.7 kg |
| Canpwys (cwt) |
112 |
~50.8 kg |
| Tunnell (t) |
2240 |
~1016 kg |
Sylwer bod y dunnell Brydeinig yn hafal i 2240 o bwysi ("y dunnell hir"), sy'n agos iawn i'r dunnell fetrig, er bod y dunnell a ddefnyddir yn gyffredinol yn yr Unol Daleithiau yn hafal i 2200 o bwysi ("y dunnell fer", sef 907.184 74 kg).
Gweler hefyd [golygu]
Cysylltiadau allanol [golygu]