Sierôm

Oddi ar Wicipedia
Sierôm
Ganwydc. 345 Edit this on Wikidata
Stridon, Dalmatia Edit this on Wikidata
Bu farwc. 30 Medi 420, 419 Edit this on Wikidata
Bethlehem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethclerig, diwinydd, hanesydd, diffynnydd, cyfieithydd y Beibl, ancr, bardd, ysgrifennwr, ysgolor beiblaidd, cyfieithydd, Doethur yr Eglwys, Tadau'r Eglwys Edit this on Wikidata
Swyddysgrifennydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydamonastic Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Fwlgat, De viris illustribus, Chronicon Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadmynachaeth Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl30 Medi, 15 Mehefin, 30 Medi, 30 Medi Edit this on Wikidata

Sant ac awdur Cristnogol oedd Sant Sierôm, Groeg: Ευσέβιος Σωφρόνιος Ιερώνυμος, Lladin: Eusebius Sophronius Hieronymus (tua 34730 Medi 420). Mae'n fwyaf adnabyddus fel cyfieithydd y Beibl o'r Groeg a Hebraeg i'r Lladin. Cyfieithiad Sierôm yw'r Fwlgat, sy'n parhau i gael ei ddefnyddio.

Ganed ef tua 347 yn Strido, ar y ffin rhwng Pannonia a Dalmatia. Aeth i Rufain gyda'i gyfaill Bonosus i astudio rhethreg ac athroniaeth. Wedi rhai blynyddoedd yma aeth ef a Bonosus ymlaen i Gâl. Tua 373 aeth ar daith trwy Thrace ac Asia Leiaf i ogledd Syria. Cymerwyd ef yn ddifrifol wael yn Antioch, a chafodd weledigaeth a'i perswadiodd i ymroi i grefydd.

Ordeiniwyd ef yn Antioch gan yr Esgob Paulinus tua 378 neu 379, ac aeth i Gaergystennin i astudio dan Gregory Nazianzen. Wedi dwy flynedd yma, dychwelodd i Rufain lle bu'n cynorthwyo'r Pab Damaseus I. Dychwelodd i Antioch yn 385 ac aeth ymlaen i ymweld â Jerusalem, Bethlehem a Galilea, yna ymlaen i'r Aifft. O 388 ymlaen, treuliodd y gweddill o'i fywyd fel meudwy gerllaw Bethlehem.

Yng Nghymru, rhoddodd ei enw i o leiaf tair eglwys Gristnogol - a phob un o'r dair mewn pentref o'r enw "Llangwm":