Meini Harold
Oddi ar Wicipedia
Cyfres o dri maen hir cynhanesyddol yw Meini Harold (Saesneg: Harold's Stones) sy'n sefyll mewn cae ar gwr pentref Tryleg yn Sir Fynwy.
Gosodwyd y meini mewn llinelliad rhywbryd yn ystod Oes yr Efydd, yn ôl pob tebyg. Mae eu pwrpas yn ddirgelwch. Er mai dim ond tri o feini sy'n sefyll heddiw, awgrymir y buont yn rhan o linelliad fwy sylweddol yn y gorffennol. Ceir "marciau cwpan" (cupmarks), chwedl yr archaeolegwyr, wedi'u cerfio ar ymyl ddeheuol y garreg ganol.[1]
Mae'n gred boblogaidd fod y pentref wedi ei enwi ar ôl y meini hyn (Trellech yw un o'r ffurfiau amgen ar enw'r pentref).
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978), tud. 139.