Ysgyryd Fawr
| Ysgyryd Fawr (y Mynydd Du) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Ysgyryd Fawr gyda'r Fenni |
| Uchder (m) | 486 |
| Uchder (tr) | 1594 |
| Amlygrwydd (m) | 344 |
| Lleoliad | rhwng Llanymddyfri a Threfynwy |
| Map topograffig | Landranger 161; Explorer 13S |
| Cyfesurynnau OS | SO331182 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) |
Bryn yn Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru yw Ysgyryd Fawr (Saesneg: Skirrid neu Skirrid Fawr). Ysgyryd Fawr yw copa mwyaf dwyreiniol y Mynydd Du; saif gerllaw y Fenni ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r de o'r bryn ceir pentref a phlwyf Llanddewi Ysgyryd; cyfeiriad grid SO331182.
Uchder y mynydd yw 486 m (1596 tr). Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 142 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Cyfeirir ato weithiau fel "Mynydd Sanctaidd", gan fod traddodiad lleol fod ei ddaear yn sanctaidd ac yn arbennig o ffrwythlon. Arfeid cymeryd rhywfaint o'r pridd o'r bryn i'w wasgari ar gaeau, ar sylfeini eglwysi ac ar eirch.
Ceir gweddillion bryngaer o Oes yr Haearn ac adfeilion eglwys Gatholig Sant Mihangel ar y copa.
Cynnwys |
Dosbarthiad [golygu]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 486 metr (1594 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'