Castell y Fenni
Saif Castell y Fenni yn nhref farchnad y Fenni, Sir Fynwy yn ne-dwyrain Cymru.[1] Cafodd y castell ei gofrestru fel Gradd l yng Ngorffennaf 1952.[2]
Saif uwch ben Afon Wysg, gan edrych i lawr ar y dyffryn arferai ei warchod. Cafwyd hyd i gestyll cynharach yn yddio'n ôl i'r Oes Efydd, yr Oes Haearn ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain (Caer Gobannium) ychydig i'r gorllewin o safle'r castell.
Codi'r castell [golygu]
Mae'r castell presenol yn dyddio'n ôl i 1075 pan gafodd ei godi gan Hamelin de Balun ar orchymyn Gwilym y Gorchfygwr.
Am flynyddoedd wedyn, bu i'r castell newid dwylo rhwng y Cymry a'r Saeson. Cryfahwyd y castell yn y 13eg a'r 14eg ganrif gan John Hastings, Barwn Cyntaf Hastings.
Cryfhawyd y fynedfa yn 1400 pan glywyd am chwyldro Owain Glyn Dŵr; ac er i'r dref ei hun gael ei losgi i'r llawr yn 1402, daliwyd y castell yn llwyddiannus yn erbyn ymosodiad 1402.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan "Casteluk"; Castell y Fenni; Adalwyd 14/05/2012
- ↑ http://britishlistedbuildings.co.uk/wa-2376-abergavenny-castle-ruins-abergavenny; Gwefan "British Listed Buildings"; adalwyd 14/05/2012
Gweler hefyd [golygu]
Cyfesurynnau: 51°49′11″N 3°01′01″W / 51.819593°N 3.016821°W