Castell y Grysmwnt
Oddi ar Wicipedia
Delwedd:GrosmontCastle4.jpg
Castell y Grysmwnt
Castell Normanaidd ydy Castell y Grysmwnt (Saesneg: Grosmont Castle) a saif ger pentref y Grysmwnt yng ngogledd eithaf y sir, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr.
Ymddengys iddo gael ei godi yn y 12ed ganrif ond ni wyddwn gan bwy. Yn 1201 fe'i roddwyd yn rhodd i'r marchog Normanaidd Hubert de Burgh (y sonir amdano yn y ddrama-glasur Siwan) gan ei gryfhau gryn dipyn rhwng 1224 a 1226.