Malcolm Nash
Oddi ar Wicipedia
Cyn-gricedwr, ac yn ddiweddarach hyfforddwr, a fu'n chwarae i Forgannwg yw Malcolm Andrew Nash, (ganed 9 Mai 1945).[1]
Ganed ef yn y Fenni. Roedd yn fowliwr llaw chwith, a gymerodd bron fil o wicedi i Forgannwg, a sgoriodd gant gyda'r bat ddwywaith. Cofir ef yn fwy na dim fel y bowliwr pan darawodd Gary Sobers ef am chwech chwech yn yr un belawd ar 31 Awst 1968.[2][3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Malcolm Nash. ESPNcricinfo. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Whatever happened to Malcolm Nash?. The Observer (3 Chwefror 2002). Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ (Saesneg) Sobers' six ball fetches £26,400. BBC (15 Tachwedd 2006). Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.