Caerllion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Caerleon)
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°36′54″N 2°57′32″W / 51.615°N 2.959°W / 51.615; -2.959

Caerllion
Caerleon vue.jpg
Caerllion o Beechwood.
[[File:|240px|Caerllion is located in Casnewydd]]
Caerllion

 Caerllion yn: Casnewydd
Poblogaeth 8,708 (Cyfrifiad 2001)
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans ST336909
Prif ardal Casnewydd
Sir seremonïol Gwent
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost CAERLLION
Rhanbarth cod post NP18
Cod deialu 01633
Yr Heddlu Gwent
Tân De Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Gorllewin Casnewydd
Cynulliad Cymru Gorllewin Casnewydd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Casnewydd

Pentref ar lannau gorllewinol Afon Wysg, ger Casnewydd, yw Caerllion, hefyd Caerllion-ar-Wysg (Saesneg: Caerleon); rhif OS: ST3390. Ystyr Caerllion ydy 'caer y llengoedd'.

[golygu] Olion Rhufeinig

Yn y cyfnod Rhufeinig, fel Isca Silurum, roedd Caerllion yn ganolfan i'r lleng Legio II Augusta. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r bedwaredd ganrif. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.

Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.

[golygu] Yr Oesoedd Canol

Tua dwy neu dair km i'r gogledd-orllewin saif Mwnt y Castell, sef hen domen mwnt a beili.

Golygfa ar Gaerllion
Golygfa o'r olion Rhufeinig
Yr Amffitheatr Rufeinig

[golygu] Enwogion


CymruCasnewydd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill