Castell Madog

Oddi ar Wicipedia
Castell Madog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.022°N 3.422°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan gwledig ym Mrycheiniog, de Powys, yw Castell Madog. Mae'n gorwedd i'r de o Fynydd Epynt ar lan afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg.

Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 5 milltir i'r de. Y pentrefi cyfagos yw Capel Uchaf, i'r gogledd, a Chapel Isaf, Pwllgloyw, a Llandefaelog Fach i'r de, ar y lôn i Aberhonddu.

Ceir plasdy Castell Madog gerllaw.