Casgob

Oddi ar Wicipedia
Casgob
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3°N 3.1°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanddewi yn Hwytyn, Powys, Cymru, yw Casgob[1] (Saesneg: Cascob weithiau). Fe'i lleolir mewn cwm tua 5 milltir i'r de-orllewin o Drefyclawdd yn ardal Maesyfed. Yno y saif eglwys Llanfihangel Casgob. Mae'n rhan o gymuned .

Cwm Casgob o Fforest Faesyfed

Ceir Fforest Clud i'r de a'r gorllewin. Tua dwy filltir i'r gogledd ceir safle Brwydr Bryn Glas, lle cafodd Owain Glyndŵr fuddugoliaeth fawr dros y Saeson.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Chwedl Draig Fforest Clud[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn Fforest Clud ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefn-llys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nant Melan a Llanfihangel Casgob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. [https://web.archive.org/web/20070430204832/http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm Archifwyd 2007-04-30 yn y Peiriant Wayback. "St Michael and the Dragon of Radnor Forest" ar wefan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu).
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.