Yr Ystog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar ran o'r Ystog.

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Yr Ystog (Saesneg: Churchstoke neu Church Stoke). Saif y pentref i'r de-ddwyrain o dref Trefaldwyn, yn agos at y ffîn a Lloegr, ger cyffordd y priffyrdd A489 ac A490. Mae Afon Camlad yn llifo heibio iddo. Ceir archfarchnad fawr Harry Tuffins yn y pentref, ynghyd ag ysgol gynradd a dwy dafarn.

Cymuned[golygu]

Heblaw pentref Yr Ystog, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Hyssington a Snead; mae rhan fechan o'r gymuned ar wahan i'r gweddill, i'r de o Drefaldwyn. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,571.

Hanes[golygu]

Cerddorion yn yr Ystog; tua 1885.

Dyddia corff Eglwys Sant Niclas o 1815, ond mae'r tŵr o'r 13eg ganrif. Gerllaw mae gweddillion castell mwnt a beili a adawenir fel Castell yr Esgob.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Yr Ystog (pob oed) (1,691)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Ystog) (70)
  
4.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Ystog) (412)
  
24.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Yr Ystog) (227)
  
32.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: