Pilalau

Oddi ar Wicipedia
Pilalau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3063°N 3.0905°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanddewi yn Hwytyn, Powys, Cymru, yw Pilalau (Saesneg: Pilleth). Saif i'r de-orllewin o Drefyclawdd ac i'r de o'r briffordd A488, gyda Afon Llugwy yn llifo gerllaw.

Eglwys Pilalau

Ychydig i'r gorllewin o'r pentref saif bryn o'r enw Bryn Glas. Hwn oedd safle Brwydr Bryn Glas, neu Frwydr Pilleth yn Saesneg, ar 22 Mehefin 1402, pan orchfygodd Owain Glyndŵr fyddin Seisnig fwy niferus dan Edmund Mortimer. Saif eglwys y plwyf, Eglwys y Santes Fair, ar y bryn yma yn hytrach nag yng nghanol y pentref. Credir fod y sefydliad yn un cynnar, ac roedd ffynnon santaidd yma. Dyddia'r eglwys bresennol o'r 13g yn bennaf, a'r tŵr o'r 14g.

Yn y 19g cafwyd hyd i lawer o esgyrn heb fod ymhell o'r eglwys, lladdedigion y frwydr yn ôl pob tebyg, a phlannwyd coed Wellingtonia i nodi'r fan. Mae'n rhain yn awr yn nodwedd amlwg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  2. Gwefan Senedd y DU