Crucywel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°51′35″N 3°08′14″W / 51.8597°N 3.1372°W / 51.8597; -3.1372

Crucywel
Crickhowell streetscape by JScheppers.jpg
Y strydoedd
Crucywel is located in Powys
Crucywel

 Crucywel yn: Powys
Poblogaeth 2,800 
Cyfeirnod grid yr AO SO217186
Prif ardal Powys
Sir seremonïol Powys
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost CRUCYWEL
Rhanbarth cod post NP8
Cod deialu 01873
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Brycheniog a Maesyfed
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Powys

Mae Crucywel (Seisnigiad: Crickhowell) neu Crughywel a Crug Hywel[1] yn dref yn ne-ddwyrain Powys ar Afon Wysg ac ar y ffordd A40.

Tardda'r enw o'r bryn Crug Hywel a'i fryngaer drawiadol gerllaw. Mae’r dref yn sefyll ar Afon Wysg ar ochr ddeheuol y Mynydd Du yn rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae poblogaeth o ryw 2,000 yn byw yn y dref.

Mae adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig yn y dref yn cynnwys eglwys blwyf St Edmund, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, gweddillion castell Crucywel ar y “twmp” a’r bont o’r ail ganrif ar bymtheg. Mae gan y bont ddeuddeg bwa ar un ochr a thri bwa ar ddeg ar yr ochr arall.

Gefeilldref [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Y llyfr enw: Enwau'r Wlad gan D. Geraint Lewis (Gwasg Gomer, 2007)


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato