Limerick
Oddi ar Wicipedia
Castell y Brenin John, ar lan ddeheuol Afon Shannon, gyda Phont Thomond.
Prifddinas Swydd Limerick yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon, yw Limerick (Gwyddeleg: Luimneach). Saif y ddinas ar Afon Shannon, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 91,000. Saif tua 195 km i'r gorllewin o ddinas Dulyn.
Mae'r ddinas yn ddyddio o leiaf o gyfnod ymsefydliad y Llychlynwyr yn 812, ac mae nifer o'r adeiladau, megis Castell y Brenin John, yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd. Roedd yn ddinas o bwysigrwydd strategol yn rhyfeloedd y 17eg ganrif, a gwarchaewyd arni gan Oliver Cromwell yn 1651. Dirywiodd sefyllfa economaidd y ddinas yn dilyn Deddf Uno 1801 a Newyn Mawr Iwerddon, a dim ond yn ddiweddar y mae wedi adfywio.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Hunt
- Castell y Brenin John
- Eglwys gadeiriol Sant Ioan
- Eglwys gadeiriol Santes Fair
Enwogion [golygu]
- Brian Boru (941-1014), Uchel Frenin Iwerddon
- Catherine Hayes (1825-1861), cantores opera
- Seán Keating (1889-1977), arlunydd