Castell-nedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°40′N 3°49′W / 51.66°N 3.81°W / 51.66; -3.81

Castell-nedd
NeathCastleRemains.jpg
Castell y Nedd.
Castell-nedd is located in
Castell-nedd

 Castell-nedd yn: Castell-nedd Port Talbot
Poblogaeth 47,020 (2001)
Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SS745975
Prif ardal Castell-nedd Port Talbot
Sir seremonïol Gorllewin Morgannwg
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost NEATH
Rhanbarth cod post SA10-11
Cod deialu 01639
Yr Heddlu De Cymru
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Castell-nedd
Cynulliad Cymru Castell-nedd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Castell-nedd Port Talbot
Gweler hefyd Castell-nedd (gwahaniaethu).

Tref ym Mwrdeisdref Sirol Castell-nedd Port Talbot, de Cymru, yw Castell-nedd, ac sy'n gorwedd ar lan orllewinol yr Afon Nedd. Roedd ganddi boblogaeth o 45,898 yn 2001.[1]

Cynnwys

[golygu] Hanes

Man croesi'r afon oedd Castell-nedd i ddechrau, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ond at dri lle yn unig yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig Tacitus yn cyfeirio atynt yn ei Historiae (Hanes), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.

Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau Celtaidd ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn Ogof Paviland[2] ar Benrhyn Gŵyr, yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod Oes yr Iâ ddiwethaf. Er y'i hadnabyddir fel "Arglwyddes Goch Paviland", gweddillion dyn nid menyw ydy.[3]. Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o iâ, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y Silwriaid. Nidum yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.[4]

Mae adfeilion castell bychan Normanaidd, sef y Castell Nedd gwreiddiol, ger canol y dref.

Roedd yn dref farchnad, a chychwynodd diwydiant newydd yna yn ystod y 18fed ganrif, sef haearn, dur ac alcam. Mwyngloddid llawer o lo yn yr ardal, a daeth y dref yn ganolfan bwysig i gludiant ar reilffyrdd a chamlesi. Mwyngloddid hefyd silica. Adeiladwyd goethdŷ i betrol yn yr 20ed ganrif.

Roedd y dref yn borthladd hyd yn ddiweddar.

Heol Windsor yng Ngastell-nedd

[golygu] Y dref heddiw

Mae atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys Abaty Nedd, Parc Y Gnoll, a'r farchnad.

Rhannau amlwg o'r dref yw Tonna i'r gogledd, Cimla i'r dwyrain, Bryncoch a Sgiwen i'r gorllewin a Llansawel i'r de.

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghastell-nedd ym 1918, 1934 a 1994. Am wybodaeth bellach gweler:

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Gweler hefyd

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
WalesNeathPortTalbot.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill