Katherine Jenkins

Oddi ar Wicipedia
Katherine Jenkins
GanwydKatherine Maria Jenkins Edit this on Wikidata
29 Mehefin 1980 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Label recordioUniversal Music Group Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera, music artist Edit this on Wikidata
Arddulltrawsnewid, cerddoriaeth glasurol, opera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
PriodAndrew Levitas Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.katherinejenkins.co.uk Edit this on Wikidata

Mezzo-soprano o Gastell-nedd yw Katherine Jenkins, OBE (ganwyd 29 Mehefin, 1980). Er mai cantores glasurol yw hi, mae hi hefyd yn perthyn i gerddoriaeth bontio gan mor eang yw ei hapel.

Cafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Alderman Davies a oedd drws nesaf i Eglwys St David lle y cafodd Katherine gyfle i ddysgu canu a chyfle i ganu yn y côr ac fel unawdydd. Pan yn blentyn, cynrychiolodd Gymru deirgwaith yn y gystadleuaeth Choirgirl of the Year, enillodd gystadleuaeth Radio 2 Welsh Choirgirl of the Year yn ogystal ag ennill y BET Welsh Choirgirl of the Year.

Enillodd Katherine Ysgoloriaeth Côr Meibion Dyffryn Pelenna fel y gantores fwyaf addawol, a phan oedd yn 17 enillodd ysgoloriaeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Derbyniodd radd anrhydedd.

Yn 2004, pan oedd Katherine yn 23 oed, arwyddodd y cytundeb recordiau fwyaf yn hanes cerddoriaeth clasurol. Daeth y cyn-athrawes o Gastell Nedd y gantores glasurol a werthodd y nifer fwyaf o recordiau gyflymaf ers Maria Callas.

Ers hynny, gwnaed Katherine yn fascot swyddogol tîm rygbi Cymru. Cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn 2003, recordiodd gân swyddogol y tîm Cymreig, fersiwn o Bread of Heaven i gyfeiliant côr meibion o gant o leisiau. Cyn hynny, roedd wedi canu'r anthem genedlaethol Hen Wlad fy Nhadau yn Stadiwm y Mileniwm cyn gêm Cymru / Lloegr ym mis Awst.

Mae Katherine wedi perfformio ar yr X Factor yn canu gyda Rhydian. Roedd hi wedi rhyddhau 5 albwm erbyn 2004; roedd yr albwm Premier ar ben y siart clasurol am 8 wythnos. Yn 2005 cafodd La Diva ei ryddhau ac yn 2006 rhyddhodd yr albwm Serenade. Yn 2008 cafwyd From the heart a Rejoice. Rhyddhaodd ei chweched albwm sef Sacred Arias ar yr 20fed o Hydref 2008.

Ei Gyrfa[golygu | golygu cod]

2003–4: Première a Second Nature[golygu | golygu cod]

Daeth Jenkins i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf pan ganodd hi yn Abaty San Steffan ar gyfer jiwbili arian y Pâb John Paul II yn Hydref 2003. Cafodd gefnogaeth y canwr Aled Jones pan oed ar daith. Yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2003, canodd am y tro cyntaf yn Nhy Opera Sydney. Yn Awst 2004, ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn cefnogi Hayley Westenra yn Joe's Pub yn Ninas Efrog Newydd.

Arhosodd ei halbwm cyntaf, Première, am gyfanswm o wyth wythnos ar frig y siart glasurol Prydeinig, gan ei gwneud y soprano i werthu gyflymaf erioed. Yn fuan iawn, Jenkins oedd yr artist glasurol gyntaf i gael dwy alwbm rhif un yn yr un flwyddyn gyda Première a Second Nature. Mae hi bellach yr unig berson i fod yn rhif un y siart glasurol a chael dau albwm yn y siart ar yr un pryd. Cyrhaeddodd Second Nature rif 16 yn y siart bop y Deyrnas Unedig ac yn ddiweddarach cafodd ei enwi fel Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Claurol y BRITs. Dewisir y wobr hon gan wrandawyr Classic FM.

Jenkins oedd y person cyntaf hefyd i berfformio anthem y Gwledydd Cartref "The Power of Four". Yna aeth ymlaen i berfformio'n rheolaidd fel y gantores a ganai'r anthem genedlaethol Hen Wlad fy Nhadau yng ngemau rhyngwladol Cymru. Hefyd canodd gyda Bryn Terfel yng ngêm Cymru-Lloegr y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm. Bellach, Jenkins yw mascot swyddogol tîm rygbi Cymru. Yn ogystal â'i pherfformiadau cyn gemau Rygbi'r Undeb. Yn 2004 canodd yn rownd derfynol Cwpan Sialens Powergen rhwng San Helens a Wigan.

2005–6: Living a Dream a Serenade[golygu | golygu cod]

Ar yr 22ain o Ionawr 2005, canodd Jenkins mewn Cyngerdd Elusennol i'r Tsunami yng Nghaerdydd er mwyn codi arian i ddioddefwyr daeargryn Môr India yn 2004. Yn Ebrill a Mai 2005, cefnogodd Jenkins y tenor Gwyddelig Ronan Tynan ar ei daith gyntaf fel perfformiwr unigol o amgylch yr Unol Daleithiau. Ar lwyfan Live 8 yn Berlin, canodd Jenkins yr emyn "Amazing Grace". Roedd ei pherfformiad hi o'r gân yn solo lleisiol am rannau helaeth o'r gân: ar gyfer gweddill y gân roedd piano'n chwarae'n ysgafn.

Ym Mai 2005, canodd Jenkins i gynulleidfa o 15,00 yn Sgwâr Trafalgar er mwyn dathlu 60 mlynedd ers Diwrnod VE ac yn ddiweddarach helpodd y Lleng Brenhinol Prydeinig i lawnsio eu hapel yn Covent Garden. Gwisgodd ffrog a oedd wedi ei chreu o 2,500 o babi coch.

Trydydd albwm Jenkins oedd Living A Dream (2005). Ar yr albem perfformiodd fersiwn o gân Dolly Parton "I Will Always Love You" yn Eidaleg - "L'Amore Sei Tu". Cafodd y gân hon ei pherfformio am y tro cyntaf ym Mhriordy Nostell, Gorllewin Swydd Efrog ar yr 28ain o Awst 2005. Pan gafodd yr albwm ei rhyddhau, roedd Jenkins yn rhif un, dau a thri o'r siart albymau clasurol yn sgîl llwyddiant ei halbymau blaenorol hefyd. Arhosodd yr albwm yn rhif un am bron i flwyddyn a chyrhaeddodd rif pedwar yn y siart albymau pop. Ailadroddwyd yr un llwyddiant gyda'i halbwm Living a Dream pan enillodd wobr BRIT clasurol am Albwm y Flwyddyn am yr eildro. Mae Jenkins bellach yr unig artist benywaidd i ennill dau wobr BRIT clasurol dwy flynedd yn olynol.

Perfformiodd Jenkins gyda'r Blue Man Group o flaen y Frenhines yn Mherfformiad y Royal Variety ar yr 21ain o Dachwedd 2005 pan ganodd "I Feel Love". Gwisgodd Jenkins ffrog amryliw gyda goleuadau'n ffalchio arno. Perfformiodd yng nghyngerdd Gwobr Heddwch Nobel yn Oslo, Norwy ar yr 11eg o Ragfyr 2005 hefyd.

Cafodd ei phedwaredd albwm stiwdio, Serenade, ei ryddhau ar y 6ed o Dachwedd 2006 ac aeth i rif 5 yn y brif siart Brydeinig gan werthu mwy na 50,000 o gopïau yn yr wythnos gyntaf. Golygodd hyn mai dyma'r CD clasurol i werthu fwyaf yng ngwledydd Prydain. Ar siart glasurol HMV, albymau Jenkins oedd o rif un i rif pedwar. Yn ogystal â hyn, perfformiodd yn fyw o flaen y Frenhines yn Nhachwedd yng Ngŵyl Cofio y Lleng Brenhinol Prydeinig yn Neuadd yr Albert Frenhinol. Ymunodd y canwr Cymreig James Fox â hi ar gyfer pennill olaf "Anthem" o'r sioe gerdd 'Chess'. Ar y 23ain o Ragfyr 2006 ymddangosodd Jenkins fel gwestai a pherfformwraig ar sioe Parkinson ar ITV, lle canodd hi'n anthem genedlaethol Cymreig yn ystod ei chyfweliad. Canodd gân Nadoligaidd hefyd gyda band pres a Chor Meibion Froncysyllte yn gyfeiliant iddi.

2007- presennol: Rejoice[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau 2007, ymddangosodd Jenkins am ei thro cyntaf ar Rich List The Sunday Times o bobl ifanc. Fe'i hystyriwyd yn rhif 62 o ran person ifanc cyfoethocaf Prydain gyda chyfoeth personol o tua £9 miliwn. Ers diwedd 2006, amcangyfrifir ei bod wedi gwerthu tua 2 filiwn o recordiau ers ei halbwm cyntaf yn 2004.

Paul Potts yn perfformio ym Mhafiliwn Rhyl.

Gwnaeth ymddangosiad cameo hefyd mewn dwy raglen o Emmerdale ar yr 16eg a'r 17eg o Fai 2007 pan agorodd ffair y pentref. Ym mis Gorffennaf, perfformiodd Jenkins yn fyw ar Saving Planet Earth ar BBC1 er mwyn codi arian i Gronfa Byd Natur y BBC. Yn ddiweddarach yr un mis, cynhaliwyd cyngerdd arbennig ym Mharc Margam yn Ne Cymru pan berfformiodd Jenkins yno. Galwyd y cyngerdd yn Katherine In The Park a gwelwyd Jenkins yn perfformio ochr yn ochr â Paul Potts a Juan Diego Florez. Rhoddodd Jenkins wahoddiad personol i Potts i ganu "Nessun dorma" yn y cyngerdd. Ar y 12fed o Awst 2007, ymddangosodd Jenkins ar raglen ITV Britain's Favourite View lle enwebodd Jenkins Bae Three Cliffs ar benrhyn Gŵyr. Aeth Jenkins a'r camerâu am daith o amgylch y bae gan esbonio pam fod gan y bae y fath arwyddocâd sentimental iddi. Meddai "I grew up on the edge of the Gower, but it was still a holiday place for our family. We’d go on weekend breaks to Three Cliffs Bay – six miles down the road! That’s how gorgeous it is." Ym mis Medi, modelodd Jenkins ar bompren yn "Fashion Relief" Naomi Campbell er mwyn codi arian at achosion da. Gwisgodd ffrog Julien MacDonald a brynwyd yn ddiweddarach gan Syr Phillip Green am £10,000. Ar y 21 o Hydref 2007, canodd Jenkins "Time to Say Goodbye" gydag Andrea Bocelli ar raglen Strictly Come Dancing.

Yn Nhachwedd 2007, canodd unwaith eto ar gyfer Gŵyl Goffa'r Lleng Brenhinol Prydeinig yn Neuadd Albert, Llundain ac enillodd y wobr am y berfformwraig glasurol y flwyddyn yng Ngwobrau Adloniant y Variety Club. Rhyddhawyd ei phumed albwm, o'r enw Rejoice, ar 19 Tachwedd 2007. Mae'r albwm yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth pop a chlasurol ac ysgrifennwyd rhai o'r caneuon yn arbennig ar ei chyfer. Ysgrifennwyd dwy gân gan Gary Barlow o'r grŵp Take That. Aeth yr albwm i rif tri o'r siart albymau pop, gan faeddu'r Spice Girls a Girls Aloud. Dywedodd Jenkins "I never imagined when I was a young girl listening to them on the radio that I would outsell the Spice Girls and Celine Dion. It’s almost too much to take in. I can’t thank my fans enough for all their support."

Cydweithiodd Jenkins gyda Darcey Bussell hefyd, gan drefnu cynhyrchiad llwyfan o ddawns a cherddoriaeth er mwyn talu teyrnged i'r sêr a'u hysbrydolodd, gan gynnwys Madonna a Judy Garland. Gyda chyllid o £1 miliwn, lansiwyd y sioe o'r enw "Viva la Diva" ym Manceinion ym mis Tachwedd. Er mwyn paratoi ar gyfer y sioe, dysgodd Jenkins i ddawnsio tap, gan dreulio wyth awr yr wythnos mewn stiwdio ddawns yn dysgu'r coreograffeg ac yn rhedeg tair milltir bob dydd er mwyn bod yn heini. Perfformiodd Jenkins a Bussell ran o'r sioe o flaen Brenhines Lloegr yn y 79fed Royal Variety Performance a ddarlledwyd ar y teledu ar 9 Rhagfyr 2007. Ar y 15 Rhagfyr, perfformiodd Jenkins ar raglen derfynol y gyfres The X Factor. Canodd ddeuawd gyda'r cystadleuydd Rhydian Roberts gan ganu "You Raise Me Up". Perfformiodd "Hen Wlad fy Nhadau" hefyd ar yr 17 Mai 2008 yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth Cwpan yr FA rhwng Dinas Caerdydd a Portsmouth. Hi oedd y person cyntaf i wneud hyn yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA.

Rhyddhawyd hunangofiant Jenkins, Time to Say Hello, ar 28 Ionawr 2008, a gafodd ei gyhoeddi fel cyfres yn The Mail on Sunday. Mae Jenkins hefyd yn llysgennad ar gyfer peniau a rhoddion Montblanc. Am ei bod yn llysgennad i'r cwmni, golyga hyn ei bod yn medru benthyg eu gemwaith er mwyn eu gwisgo i ddigwyddiadau, ond er mwyn diogelu Jenkins a'r gwrthrychau gwerthfawr, caiff Jenkins ei thywys gan swyddogion diogelwch Montblanc. Gwisgodd gwerth £6 miliwn o ddeiamwntiau Montblanc ar gyfer Gwobrau Blynyddol y Grammy yn 2008.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Mae gan Jenkins un chwaer. Bu farw ei thad, Selwyn Jenkins, o gancr pan oedd yn ei harddegau a sonia Katherine Jenkins am weld ei eisiau yn nodiadau ei halbymau.

Tra'n astudio yn yr Academi Frenhinol o Gerddoriaeth pan oedd yn 19 mlwydd oed, ymosodwyd arni a bu bron iddi gael ei threisio gan ddyn a ddilynodd hi oddi ar y bws wedi noson allan gyda ffrindiau. Wrth i Jenkins gerdded y daith dwy-funud i'w chartref yn Llundain, neidiodd y dyn arni gan geisio'i llusgo i lwybr ond llwyddodd i ddianc. Parhaodd y dyn i'w dilyn gan ei tharo i'r llawr, gan beri i Jenkins gwrlio i fyny fel pêl er mwyn ei atal rhag ei threisio. Ar ôl iddo ei chicio droeon, gadawodd y dyn gyda'i waled.[1] Ni chafodd ei ddal. Dywedodd Jenkins am y profiad ""I was terrified for some time afterwards. I couldn't go out in the dark and always had to be with somebody. Even though I was on a student budget, I scraped together enough to buy a car so I could drive everywhere."

Wedi i Jenkins a Dame Vera Lynn gael eu gweld ar lwyfan gyda'i gilydd yn canu "We'll Meet Again" i dathlu 60 mlynedd ers Diwrnod VE, rhoddwyd y ffugenw "the new Forces' Sweetheart" i Jenkins, sef y ffugenw a roddwyd i Lynn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dywedodd Lynn wrth Jenkins y dylai fynd allan i ddiddanu'r lluoedd arfog a chytunodd Jenkins i wneud hynny. Yn Rhagfyr 2005 a 2006, teithiodd Jenkins i Irac i ganu i'r milwyr adeg y Nadolig. Yn ystod ei thaith gyntaf i Irac yn 2005, targedwyd yr hofrennydd roedd yn hedfan ynddo gan daflegrau wrth iddynt deithio i Shaibah, y prif faes Prydeinig yn Ne Irac. Taniwyd ffaglau gwrth-daflegrau a glaniodd y criw'n ddiogel.

Bu Jenkins mewn perthynas am bedair mlynedd gyda'r cerddor a chyn-aelod o'r band Worlds Apart, Steve Hart. Fodd bynnag, cadwodd y ddau y manylion am eu perthynas yn gyfrinachol a phur anaml y gwelwyd y ddau gyda'i gilydd. Cadarnhaodd Jenkins yn Nhachwedd 2006 fod y ddau ohonynt wedi gwahanu er mwyn iddi allu canolbwyntio ar ei gyrfa.

Ar ôl hyn, bu'n canlyn y cyflwynydd teledu o Gymru, Gethin Jones. Dywedodd yn Chwefror 2011 "Yes, it's pretty serious, but honestly I don't want to go into it very much. I like to keep my private life private and I don't want people to think that I'm trying to exploit the relationship. We are together because we like each other and not because we want any publicity from it." Ar 6 Chwefror 2011, cyhoeddwyd ei bod wedi dyweddïo gyda'r cyflwynydd teledu.[2] Fodd bynnag, yn Rhagfyr 2011, cyhoeddodd Jenkins ar Twitter fod y berthynas wedi dod i ben.

Priododd Jenkins y cyfarwyddwr ffilm Americanaidd Andrew Levitas ar 27 Medi 2014, ym Mhalas Hampton Court, Llundain. Ganwyd merch iddynt yn 2016 a mab yn 2018.[3]

Recordiau[golygu | golygu cod]

  • Première (2004)
  • Second Nature (2005)
  • Living A Dream (2005)
  • Serenade (2006)
  • From the Heart (2008)
  • Rejoice (2008)
  • Sacred Arias (2008)
  • Believe (2009)
  • Daydream (2011)
  • This Is Christmas (2012)
  • Home Sweet Home (2014)
  • Celebration (2016)
  • Guiding Light (2018)
  • Cinema Paradiso (2020)[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Erthygl www.thisissouthwales.co.uk - "Singer Katherine Jenkins opens up about her attack ordeal" Hydref 14eg. 2008.
  2. Katherine Jenkins, Gethin Jones engaged Archifwyd 2011-02-08 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Digitial Spy. 06-02-2011.
  3. Mab bach newydd i’r gantores, Katherine Jenkins , Golwg360, 24 Ebrill 2018.
  4. "Cinema Paradiso: CD". Decca Records. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]