Vera Lynn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Vera Lynn
Dame Vera Lynn.jpg
Vera Lynn yn y Sioe War and Peace ym mis Gorffennaf 2009
Ganwyd 20 Mawrth, 1917
Eastham, Llundain
Galwedigaeth Actores, Cantores

Cantores ac actores Seisnig a oedd yn hynod boblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw'r Fonesig Vera Lynn, DBE (ganed Vera Margaret Welch ar 20 Mawrth 1917) [1]. Yn ystod y rhyfel, teithiodd o amgylch yr Aifft, yr India a Bwrma, gan ddarparu cyngherddau awyr agored ar gyfer y lluoedd arfog. Cawsai ei galw'n "The Forces' Sweetheart"; ei chaneuon mwyaf adnabyddus yw "We'll Meet Again" a "The White Cliffs of Dover". Parhaodd i fod yn boblogaidd ar ôl y rhyfel, gan ymddangos ar raglenni teledu a radio yn y Deyrnas Unedig a'r UDA. Recordiodd mwy o ganeuon megis "Auf Wiederseh'n Sweetheart" a "My Son, My Son". Yn 2009 hyhi oedd yr artist byw hynaf erioed i gyrraedd rhif 1 siart albymau'r Deyrnas Unedig, pan oedd yn 92 mlwydd oed.[2] Mae hi hefyd wedi treulio llawer o'i hamser a'i hegni yn gweithio gydag elusennau sy'n ymwneud â chyn-aelodau'r lluoedd arfog, plant anabl a chancr y fron. Mae'n parhau i gael ei pharchu'n fawr gan y rheiny a frwydrodd yn yr Ail Ryfel Byd ac yn 2000 cafodd ei henwi fel y Brydeinwraig a gynrychiolai orau ysbryd yr ugeinfed ganrif.[3]

Ei bywyd personol[golygu]

Ym 1941 priododd Lynn Harry Lewis, chwaraewr clarinét a sacsoffon a gyfarfyddodd dwy flynedd ynghynt[4]. Cawsant un plentyn, Virginia Penelope Anne Lewis. Bu farw Harry Lewis yn 1999.[5]

Mae Lynn wedi bod yn byw yn Ditchling yn Sussex ers dechrau'r 1960au.[6]

Recordiadau gan Vera Lynn[golygu]

  • 1935
  • 1936
    • "Heart Of Gold" (Rex Records)
    • "A Star Fell Out Of Heaven" (Rex Records)
    • "Crying My Heart Out For You" (Rex Records)
    • "It's Love Again" (Rex Records)
    • "Did Your Mother Come From Ireland?" (Rex Records)
    • "Have You Forgotten So Soon?" (Rex Records)
    • "Everything Is Rhythm" (Rex Records)
  • 1937
    • "So Many Memories"
    • "Roses in December"
    • "When My Dream Boat Comes Home" (Rex Records)
    • "Goodnight, My Love" (Rex Records)
    • "All Alone In Vienna" (Rex Records)
  • 1939
  • 1940
    • "Careless"
    • "Until You Fall in Love"
    • "It's a Lovely Day Tomorrow"
    • "When You Wish upon a Star"
    • "Memories Live Longer Than Dreams"
    • "There'll Come Another Day"
  • 1941
    • "Smilin' Through"
    • "When They Sound the Last All Clear"
    • "Yours"
    • "My Sister and I"
    • "I Don't Want to Set the World on Fire"
  • 1942
  • 1948
  • 1949
  • 1952
  • 1954 ymlaen
  • 1967
    • "It Hurts To Say Goodbye"
  • 1969
  • 1982
  • Albymau a recordiwyd o 1960 ymlaen
    • "Yours" (1961)
    • "As Time Goes By" (1961)
    • "Hits Of The Blitz" (1962)
    • "Among My Souvenirs" (1964)
    • "More Hits Of The Blitz" (1966)
    • "Hits Of The 60's — My Way" (1970)
    • "Favourite Sacred Songs" (1972)
    • "Christmas With Vera Lynn" (1976)
    • "Vera Lynn In Nashville" (1977)
  • Ym mis Mawrth 2007 rhyddhaodd EMI set o 2CD o holl senglau Lynn o'i chytundeb gydag EMI o 1960 tan 1977.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (1995) You Must Remember This. Deyrnas Unedig: Boxtree Limited. ISBN 0 7522 1065 3
  2.  Bywgraffiad ar gyfer Vera Lynn. IMDb.
  3.  Bywgraffiad Vera Lynn. Index of Musician Biographies.
  4.  Dame Vera Lynn: the original Forces Sweetheart is still in demand. Daily Telegraph.
  5.  Bywgraffiad Vera Lynn. IMDb.
  6.  Birthday chorus for Forces Sweetheart Dame Vera (From The Argus). Theargus.co.uk.