Rhyfel y Falklands

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Pennawd enwog gan The Sun ar achlysur suddo'r llong ARA General Belgrano.

Ymladdwyd Rhyfel y Falklands (a adnabyddir hefyd fel Rhyfel y Malvinas) yn 1982 rhwng y Deyrnas Unedig a'r Ariannin.

Mae Ynysoedd y Falklands (Sbaeneg: Islas Malvinas, 'Ynysoedd y Malvinas') yn Ne Cefnfor yr Iwerydd, rhyw 300 chan milltir oddi arfordir yr Ariannin. Maent yn cynnwys dwy brif ynys a 776 o rai llai. Mae hanes cymleth wedi bod i'r ynysoedd ers iddynt gael eu darganfod, gyda Ffrainc, Sbaen a'r DU yn hawlio perchnogaeth. Pan gafodd yr Ariannin ei hannibyniaeth yn 1816 gwnaeth hithau hawlio perchnogaeth. Cymerodd Prydain berchnogaeth o'r ynysoedd trwy rym yn 1833, ond mae'r Ariannin wedi hawlio perchnogaeth ar hyd yr amser.

Mae poblogaeth o rhyw ddwy fil yn byw ar yr ynys ac maent yn ddibynnol ar yr Ariannin am nwyddau a bwyd, am addysg i lawer o'r bobl ifanc, ac am wasanaethau iechyd.

Ers ei hannibyniaeth hawliai'r Ariannin sofraniaeth ar Ynysoedd y Falklands, ond cafodd yr ynysoedd eu hawlio trwy rym gan Goron Prydain yn gynnar yn 1833 a'u troi'n wladfa Brydeinig. Ar 2 Ebrill, 1982, goresgynwyd yr ynysoedd gan lywodraeth filwrol asgell dde'r Ariannin. Methiant fu'r ymdrechion gan y Cenhedloedd Unedig a'r Unol Daleithiau i ddatrys y sefyllfa'n heddychlon ac anfonwyd llynges gyda milwyr ac awyrennau gan lywodraeth Margaret Thatcher i ailgipio'r ynysoedd; "Tasglu'r Ffalclands" fel y'i gelwid. Ar 25 Ebrill cipiwyd ynysoedd De Georgia yn ôl ac erbyn 14 Mehefin roedd y Malvinas eu hunain yn ôl ym meddiant y Deyrnas Unedig. Collwyd nifer o fywydau ar y ddwy ochr, gan gynnwys suddo'r llong Sir Galahad gan awyrennau Archentinaidd a lladd nifer o Giardau Cymreig, a suddo'r llong ryfel y General Belgrano gan long danfor Brydeinig gyda cholledion mawr o gonsgriptiaid ifainc.

Roedd Rhyfel y Falklands yn unigryw am fod Cymry Cymraeg wedi ymladd yn erbyn ei gilydd, Cymry Cymraeg o Gymru yn erbyn Cymry Cymraeg Y Wladfa.

[golygu] Brwydrau

[golygu] Colledion

  • Prydain: 258 wedi'u lladd, 777 wedi'u hanafu
  • Yr Ariannin: 649 wedi'u lladd (yn bennaf ar y Belgrano), 1,068 wedi'u hanafu

[golygu] Dolennau allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol