Sgwrs:Rhyfel y Falklands

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Beth yw'r rheswm cael yr erthygl dan y teitl yma? Heb glywed neb yng Ngymru yn galw'r rhyfel yn hwn. Ar ol gweld beth oedd yn yr erthygl cyn i fi ei newid, rwy'n credu fod gan rhywun agenda gwrth-Brydeinig. Dylai fod ar Rhyfel y Falklands, neu Rhyfel y Ffalclands os mae 'na sillafiad Cymraeg. Bnynms 22:46, 14 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Ar dudalen sgwrs yr erthygl dylid trafod rhywbeth fel hyn dwi'n meddwl. Hyd ag wn i, mae siaradwyr Cymraeg Patagonia yn cyfeirio at yr ynysoedd fel y Malvinas, felly mae 'na rhywbeth i'w ddweud o blaid "Falklands" a "Malvinas" - a bendant mae isio cadw'r ddau enw ar frig y tudalen. Mae "Ffalclands" yn edrych yn anaturiol braidd, a tydi o ddim yn ymddangos yn nunlle ar y we, dylsen ni ddim defnyddio'r ffurf yma dwi'm yn meddwl. --Llygad Ebrill 14:01, 15 Mai 2007 (UTC)[ateb]
Pwynt da, roeddwn i heb feddwl am y siaradwyr yn yr Ariannin. Am "Ffalclands", dyna'r sillafiad yn y categoriai. Bnynms 19:50, 15 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Copi o'r paragraff ar Wicipedia:Tudalennau amheus yw'r uchod. Lloffiwr 20:45, 20 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Byddai'n well gen i weld y teitl 'Rhyfel y Falklands' fy hunan am mae hwnnw yw teitl swyddogol yr ynysoedd, a'r enw Malvinas yn cael ei enwi yn y frawddeg gyntaf. Petai brodorion wedi bod ar yr ynysoedd cyn dyfodiad yr Ewropeaid yna byddai dadl go dda i ddewis enw brodorol yr ynysoedd. Ond nid felly y mae hi - yn hytrach ymgecru rhwng gwladwriaethau sydd yma. Y mae cwestiwn POV yma hefyd - rhaid holi a yw'r erthygl yn gamarweiniol am nad oes digon o gefndir y rhyfel yn cael ei roi. Rwyn cofio cael fy nghythruddo ar y pryd gan y rhai a fynnent drafod hanes y peth er mwyn cyfiawnhau eu safbwynt gwleidyddol. Mae'r ddwy frawddeg o gefndir sydd fan hyn yn rhoi'r cefndir hanesyddol yn hytrach na'r cefndir politicaidd cyfoes i'r rhyfel. Dwi ddim yn gwybod digon am y rhyfel i ysgrifennu ar y pwnc ond fe fyddwn yn hoffi gweld rhywfaint am y sefyllfa boliticaidd yn yr Ariannin a Phrydain, cyn, yn ystod ac wedi'r rhyfel.
Nid wyf wedi gweld y sillafiad Ffalclands yn unman cyn hyn! Lloffiwr 21:09, 20 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Cymry v Cymry?[golygu cod]

"Roedd Rhyfel y Falklands yn unigryw am fod Cymry Cymraeg wedi ymladd yn erbyn ei gilydd, Cymry Cymraeg o Gymru yn erbyn Cymry Cymraeg Y Wladfa."

A yw siaradwyr Cymraeg y Wladfa yn ystyried eu hunain yn "Gymry"? —Adam (sgwrscyfraniadau) 05:28, 23 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Nac ydyn! Archentwyr! Llywelyn2000 07:32, 23 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]