Hayley Westenra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hayley Westernra

Mae Hayley Dee Westenra (ganed 10 Ebrill 1987 yn Christchurch, Seland Newydd) yn soprano a Llysgennad i UNICEF. Cyrhaeddodd ei halbwm ryngwladol gyntaf, Pure rif un ar siart glasurol y Deyrnas Unedig yn 2003 ac mae wedi gwerthu dros dwy filiwn o gopïau yn rhyngwladol. Mae Westenra wedi derbyn nifer o wobrau am ei chyfraniad i gerddoriaeth, yn Seland Newydd a thramor. Ym mis Tachwedd 2008, cafodd ei henwi'n "berfformwraig clasurol y flwyddyn" yng ngwobrau blynyddol y Variety Club yn Llundain.[1]

Disgograffiaeth[golygu]

Albymau[golygu]

Albymau rhanbarthol[golygu]

Blwyddyn Teitl yr Albwm Nodiadau Rhanbarth
2000 Walking in the Air "Demo" a gynhyrchwyd yn annibynnol Seland Newydd
2001 Hayley Westenra Ei halbwm stiwdio gyntaf Seland Newydd
2001 My Gift to You CD cerddoriaeth Nadoligaidd Seland Newydd
2004 Wuthering Heights Cyfeiriwyd ato fel "mini-album" yn ei hunangofiant Siapan
2006 Crystal Siapan
2007 Amazing Grace - The Best of Hayley Westenra Siapan
2007 Prayer Yn cynnwys caneuon na ryddhawyd yn flaenorol yn Siapan Siapan
2008 Hayley sings Japanese Songs Fersiynau Saesneg Westenra o ganeuon pop Siapaneg Siapan
2009 Hayley sings Japanese Songs 2 CD a DVD o ganeuon Siapaneg yn dilyn ei halbwm yn 2008 Siapan

Albymau rhyngwladol[golygu]

Blwyddyn Teitl yr albwm Nodiadau
2003 Pure Ei halbwm gyntaf i gael ei rhyddhau tu allan i Seland Newydd ac Awstralia: aeth i frig y siart yn Seland Newydd, rhif 7 yn Awstralia a'r DU a rhif 70 yn yr Unol Daleithiau
2005 Odyssey Rhyddhawyd ar yr 8fed o Awst yn Seland Newydd; rhyddhawyd 18 Hydref yn yr Unol Daleithiau;
2005 Live From New Zealand Recordiad byw yn Seland Newydd
2007 Celtic Woman: A New Journey Ymunodd Westenra â grŵp Celtic Woman yng nghynhyrchiad eu trydydd DVD, A New Journey
2007 Treasure
2008 River of Dreams Casgliad o ganeuon mwyaf poblogaidd Hayley Westenra o'i halbymau blaenorol, a rhai caneuon newydd.

Senglau[golygu]

Blwyddyn Teitl y sengl Rhanbarth
2003 "Amazing Grace" Siapan
2005 "Wiegenlied" Siapan

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Westenra Wins UK Award Yahoo Seland Newydd. Adalwyd ar 29-05-2009


Stub singer.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ganwr neu gantores. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner New ZealandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Selandwr Newydd neu Selandwraig Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.