Blue Man Group
Grŵp creadigol a sefydlwyd gan Phil Stanton, Chris Wink a Matt Goldman yw Blue Man Group (Blue Man, BMG); canolbwynt y grŵp yw tri perfformiwr mud, o'r enw Blue Men, sy'n cyflwyno'u hunain mewn paent saim glas dros capiau moel latex a gwisgant ddillad duon. Tra'u bod yn perfformio, chwaraeir cymysgedd o offerynnau idiosynctraig. Pletha perfformiadau theatr y Blue Man Group gerddoriaeth roc (gyda phwyslais ar offerynnau traw), celf perfformio, propiau anghyffredin, y gynulleidfa, goleuo soffistigedig a llawer iawn o bapur. Ceir hefyd "adran poncho" yn y gynulleidfa; yn y rhesi blaen, darperir ponchos plastic ar gyfer y gynulleidfa er mwyn eu hamddiffyn o'r bwyd, deunyddiau, paent ac ati a deflir, gwasgarir neu arllwysir o'r llwyfan. Mae'r sioeau yn addas ar gyfer teuluoedd, yn ddoniol, bywiog ac yn aml iawn caiff bywyd modern ei ddychanu. Mae peth o'r hiwmor yn cynnwys torri ar draws y sioe er mwyn gwneud sbort o bobl sy'n cyrraedd y sioe yn hwyr.