Hen Wlad fy Nhadau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hen Wlad fy Nhadau yw anthem genedlaethol Cymru. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd.

Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar ôl i Thomas Llewelyn o Aberdâr ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn Rhuthun y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn a ddefnyddir heddiw yn gaffi 'Siop Nain'.

Recordiad o Hen Wlad Fy Nhadau o 1899. Dyma'r recordiad sain cyntaf yn yr iaith Gymraeg hyd y gwyddom.

Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol.

Defnyddir fersiynau o’r anthem gan Gernyw, Bro Goth Agan Tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zadoù. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.

Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix.

Bu cryn dynnu coes ar John Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o.[1]

Geiriau[golygu]

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.
Cytgan
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.
Cytgan
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Cytgan

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  BBC (24 Awst, 2001). Are Tories jinxed in Wales?. Adalwyd ar 23 Mehefin 2010.