Gwyn Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Gwyn Griffiths
Ganwyd11 Ionawr 1941 Edit this on Wikidata
Swyddffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 2018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cyfieithydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Awdur, cyfieithydd a newyddiadurwr Cymreig oedd Morgan Gwynfor Griffiths, adwaenid fel Gwyn Griffiths (11 Ionawr 194129 Ebrill 2018)[1][2][3]. Fe'i ganwyd yn Swyddffynnon, Tregaron. Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Tregaron a Phrifysgol Caerdydd. Am gyfnod roedd yn drefnydd yr Urdd yn Sir Benfro. Wedyn bu'n newyddiadurwr gyda'r – Western Telegraph, County Echo a'r Cymro. Cyfrannodd erthyglau i’r Daily Post a chyflwynodd raglenni radio. Ymddiddorodd yn y Llydaweg a Llydaw a chyd-gyfieithodd Dramâu o’r Llydaweg gan Tangi Malmanche

Roedd diddordeb arbennig ganddo yn y Sioni Winwns gan ysgrifennu llyfrau, erthyglau, gwneud rhaglenni ac yn y diwedd creu amgueddfa iddynt yn 1995. Cyhoeddodd The Turn of the Ermine yn 2006 ar y cyd gyda Jacqueline Gibson o Brifysgol Aberystwyth; antholeg mwya o'r Llydaweg yn y Saesneg erioed. Yn 2017 cyd-olygodd ganllaw i lenyddiaeth Cymru, The Old Red Tongue- An Anthology of Welsh literature gyda Meic Stephens.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Gwen ac roedd ganddynt pedwar o blant.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Wês Wês (cyd-olygydd)  (Gwasg Gomer, 1976)
  • Crwydro Llydaw (Christopher Davies, 1977)
  • Wês Wês – Wêth (cyd-olygydd) (Cyhoeddiadau’r Frenni, 1978)
  • Y Shonis Olaf (Gwasg Gomer, 1981)
  • Dramâu o’r Llydaweg (cyd-gyfieithydd) (Christopher Davies, 1982)
  • Wês Wês - Shwrne ’to (golygydd) (Cyhoeddiadau’r Frenni, 1982)
  • Goodbye Johnny Onions (Dyllansow Truran, 1987)
  • Llew a’r Llygod Llydewig (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1993)
  • Leisa a Morris o’r Môr (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1993)
  • Ewythr Barti y Môr-leidr (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1994)
  • Draig yn y Cwpwrdd (cyfieithydd) (Gwasg Gomer, 1995)
  • Wês Wês Pentigily (golygydd) (Gwasg Gomer, 1994)
  • Llydaw - Ei Llên a'i Llwybrau (Gwasg Gomer, 2000)
  • Sioni Winwns (Carreg Gwalch, 2002)
  • The Last of the Onion Men (Carreg Gwalch, 2002)
  • Le Monde des Johnnies (Le Telegramme, 2002)
  • The Turn of the Ermine (cyd-olygydd a chyd-gyfieithydd gyda Jacqueline Gibson) (Francis Boutle Publishers, 2006)
  • Gwlad Fy Nhadau (Carreg Gwalch, 2006)
  • Land of my Fathers (Carreg Gwalch, 2006)
  • Cerddi Evan James - Poems by Evan James (Gwasg Gwalch, 2009)
  • Henry Richard - Apostle of Peace and Welsh Patriot (Francis Boutle, 2012)
  • Henry Richard - Heddychwr a Gwladgarwr (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013)
  • Ar Drywydd Stori, Atgofion Newyddiadurwr o Geredigion (Y Lolfa, 2015)
  • The Old Red Tongue- An Anthology of Welsh literature (cyd-olygydd gyda Meic Stephens) (Francis Boutle, 2017)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofio'r awdur a'r newyddiadurwr Gwyn Griffiths , BBC Cymru, 29 Ebrill 2018. Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2018.
  2. Manylion angladd; Facebook[dolen marw]
  3. "Doyen of Welsh culture Gwyn Griffiths dies (1941-2018)". Morning Star (yn Saesneg). 2018-08-09. Cyrchwyd 2018-11-12.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]