Maesteg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°37′N 3°39′W / 51.61°N 3.65°W / 51.61; -3.65

Maesteg
Bethania Capel y Bedyddwyr Neillduol.JPG
Capel Bethania (1908; W. Beddoe Rees)
Maesteg is located in
Maesteg

Maesteg Pen-y-bont ar Ogwr
Poblogaeth 20,702 
Sir Pen-y-bont ar Ogwr
Sir seremonïol Morgannwg Ganol
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost MAESTEG
Cod deialu 01656 73
Yr Heddlu De Cymru
Tân De Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ogwr
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Maesteg yn dref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru. Mae Caerdydd 36.2 km i ffwrdd o Faesteg ac mae Llundain yn 246.2 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 21.2 km i'r gorllewin. Yn 2011 roedd ei phoblogaeth yn 17,580, o'i gymharu â 17,859 yn 2001. Mae ganddi arwynebedd o 2,721 ha ac yn cwmpasu rhan uchaf Afon Llyfni. Gellir olrhain twf Maesteg i'r gwaith haearn a thunplat treflannau fel Porth-cawl, Llynfi a Llwydarth.

Diwydiant[golygu]

Agorodd gwaith haearn ym Maesteg yn 1826 a chysylltwyd hi gyda Phorth-cawl drwy dramffordd geffylau. Yn 1837 agorwyd gwaith haearn Llynfi a gellir gweld olion y gwaith yno o hyd: adilad y chwyth-beiriant (neu fegin-beiriant), ffwrnais chwyth a rhesi tai'r gweithwyr haearn.

Yn Llwydarth, yn 1889, sefydlwyd gwaith tunplat. Cynrychiolchi Undeb Glowyr Maesteg wnaeth Vernon Hartshorn, a ddaeth yn aelod o gabined y Blaid Lafur - y Cymro cyntaf i'w ethol i'r Cabined. Rhwng y ddau ryfel; byd, daeth y Dirwasgiad Mawr - a effeithiodd yn sylweddol ar Faesteg a'r cyffiniau; gwelwyd gostyngiad yn y boblogaeth rhwng 1921 a 1931 o 24%.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Maesteg (pob oed) (17,580)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maesteg) (1,867)
  
11%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maesteg) (16319)
  
92.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Maesteg) (3,412)
  
45.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Golygfa o'r dref

Pobl o'r ardal[golygu]

  • W. Beddoe Rees, pensaer

Cysylltiad allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013