Tich Gwilym

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cerddor Cymreig oedd Tich Gwilym (ganwyd Robert Gilliam, 195119 Mehefin 2005)[1]

[golygu] Bywgraffiad

Magwyd yn Penygraig ger Tonypandy yn Dyffryn Rhondda, roedd yn byw yn Sblot.[2][3][4] Bu'n aelod o Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr ers yr 1970au, ef oedd y prif gitarydd. Bu hefyd yn gitarydd ar gyfer y cantorion, Siân James a Heather Jones a'r bandiau Kimla Taz a The Superclarks.[1] Mae'n adnabyddys am chwarae'r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, ar gitâr drydan. Rhyddhawyd trac tebyg ar iTunes ym mis Ionawr 2007, odan yr argraff mai Jimi Hendrix oedd yn chwarae, ond credai nifer mai recordiad o Tich oeddi,[5]

Bu farw mewn tân yn yn y tŷ roedd yn aros yn Nhreganna, Caerdydd yn 2005.[3][4][2] Sefydlwyd Cronfa Tich Gwilym iw goffa, mae'r gronfa'n prynnu offerynnau cerddorol ar gyfer pobl ifanc difreintiedig. Cynhalwyd cyngerdd iw goffa yng Nghwesty Claude ar Heol Albany, Caerdydd ar 14 Gorffennaf 2005 a codwyd £350 ar gyfer y gronfa.[6] Cynhalwyd cyngerdd goffa hefyd yn y Nghyfnewidfa Glo Caerdydd ar yr 16 Awst 2005.

Roedd gan Tich bump o blant o amryw o briodasau. Casglodd un o'i feibion wobr drosto, ar ôl ei farwolaeth yn seremoni Roc a Pop (RAP) BBC Radio Cymru.[7]

[golygu] Cyfeiriadau

StubWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill