John Redwood
| Y Gwir Anrhydeddus John Redwood AS | |
![]() |
|
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 27 Mai 1993 – 26 Mehefin 1995 |
|
| Rhagflaenydd | David Hunt |
|---|---|
| Olynydd | David Hunt |
|
|
|
| Geni | 15 Mehefin 1951 Dover, Caint |
| Etholaeth | Wokingham |
| Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Gwleidydd Seisnig Ceidwadol yw John Alan Redwood (ganwyd 15 Mehefin 1951). Mae'n cynrychioli etholaeth Wokingham dros y Blaid Geidwadol ers 1987. Daliodd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ddwy flynedd o 1993 tan 1995, pan ddaeth yn enwog am fud-ganu Hen Wlad Fy Nhadau yng Nghynhadledd y Torïaid Cymreig.
Roedd John Redwood yn ymfalchio ei fod wedi tanwario ar y gyllideb Gymreig, gan anfon dros gan miliwn o bunnoedd yn ôl i'r Trysorlys yn Llundain. Ef fu'n gyfrifol am Ddeddf Llywodraeth Leol 1994 pan chwalwyd yr wyth cyngor sir a'r 37 cyngor dosbarth yn groes i farn bron pob Aelod Seneddol Cymru. Roedd y 22 cyngor unedol newydd yn rhy fach i fod yn strategol ac yn rhy fawr i fod yn lleol.Trwy lwytho'r pwyllgor gydag Aelodau Seneddol Seisnig yn unig y llwyddwyd i gael y Ddeddf drwy'r senedd. Gwnaethpwyd yr un peth gyda Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[1]
Ym 2007, arddangosodd y BBC yr hen luniau o John Redwood yn canu ym 1993, ond wedi hynny cyfaddefant bod y lluniau'n amherthnasol i'r rhaglen. Ysgrifennodd Redwood mewn llythyr at The Daily Telegraph: "I am the only politician who has regularly been given eternal youth by the BBC in this way."[2]
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: William van Straubenzee |
Aelod Seneddol dros Wokingham 1987 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: David Hunt |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru 27 Mai 1993 – 26 Mehefin 1995 |
Olynydd: David Hunt |
Ffynonellau [golygu]
- ↑ Maen i'r Wal. Dafydd Wigley. Gwasg Gwynedd. 2001
- ↑ The same old song from the BBC Tudalen llythyrau The Daily Telegraph 19 Awst 2007
