Parc Gwledig Margam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Parc Margam)
Parc Gwledig Margam
Mathparc gwledig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1977 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMargam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5628°N 3.7256°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
Map

Parc ym Margam, Castell-nedd Port Talbot, yw Parc Gwledig Margam, sydd wedi'i leoli mewn 1,000 erw o barcdir. Yno fe welir orendy o'r 18g, Castell Margam sy'n plasty Fictoraidd yn y dull Tudur-Gothig, cabidyldy o'r 12g, gerddi hanesyddol newydd a adferwyd o amgylch y castell, gerddi mynachaidd a theras yr orendy.

Mae'r Parc yn cynnwys teithiau cerdded, y rheilffordd gul newydd sy'n arwain at le chwarae antur i blant, y ganolfan achub adar rheibus, llwybr fferm a chornel anifeiliaid anwes, y pentref tylwyth teg, a llyn pysgota. Mae dau fath o geirw - ceirw cochion a cheirw Père David -yn crwydro'r parcdir, a Pharc Margam yw cartref gwartheg Morgannwg.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]