Castell Castell-nedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adfeilion Castell Castell-nedd.

Castell a godwyd gan y Normaniaid yw Castell Castell-nedd, ac a roddodd ei enw i'r dref a dyfodd o'i gwmpas, sef Castell-nedd, tref sirol Castell-nedd Port Talbot yn ne Cymru.

Codwyd y castell gwreiddiol gan Robert, Iarll Caerloyw, yn y 12fed ganrif. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ond ei brif bwrpas oedd gwarchod ffin orllewinol Arglwyddiaeth Morgannwg.[1]

Ymododwyd ar y castell gan arglwyddi Cymreig Morgannwg ar ddiwedd y flwyddyn 1183.[2]

Yn y flwyddyn 1231 arweiniodd y Tywysog Llywelyn Fawr ymgyrch mawr yn ne Cymru. Llosgwyd y castell a'r dref gan ei fyddin.[3] Ailadeiladwyd y castell ar ôl hynny ond fe'i dinistrwyd eto ar ddechrau'r 14eg ganrif fel rhan o wrthryfel lleol yn erbyn Hugh Despenser, Arglwydd Morgannwg.[4]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. CastleWales.com
  2. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 273.
  3. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 133.
  4. CastleWales.com
WalesNeathPortTalbot.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill