Blaen-gwrach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pentref Blaen-gwrach

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Blaen-gwrach,[1] hefyd "Blaengwrach". Saif ar lan ddwyreiniol afon Nedd, i'r gogledd-ddwyrain o Resolfen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,148.

Mae'r ardal yn un fryniog, yn cynnwys Mynydd Resolfen (383 medr), Mynydd Pen-y-Cae (573 m) a Chraig-y-Llyn (600 m). Mae dwy ran i'r pentref, Blaen-gwrach a Cwm-gwrach, ond yn aml defnyddir Cwm-gwrach am y pentref a Blaen-gwrach ar gyfer yr ardal ehangach.

Ceir olion o gangen o Gamlas Nedd yma, ac roedd gwaith haearn Penallt ar agor rhwng 1839 ac 1854. Roedd capel Anghydffurfiol cynnar yma, a sefydlwyd yn 1662; troes yn achos Undodaidd yn 1772 a chaeodd yn 1878.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Blaen-gwrach (pob oed) (1,141)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Blaen-gwrach) (162)
  
14.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Blaen-gwrach) (998)
  
87.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Blaen-gwrach) (174)
  
37.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 81
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013