Banwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Banwen (hefyd: Banwen Pyrddin). Saif yn rhan uchaf Cwm Dulais, ychydig i'r de o gyffordd y priffyrdd A4109 ac A4221, i'r de-ddwyrain o bentref mwy Dyffryn Cellwen. Mae yng nghymuned Onllwyn.

Awgrymwyd y pentref fel man geni Sant Padrig, ar sail cofnod iddo ef gael ei eni mewn lle o'r enw banavem taburniae, rywle ar arfordir gorllewinol Ynys Prydain. Roedd ar y ffordd Rufeinig rhwng Castell Nedd ac Aberhonddu, ac mae olion gwersyll Rhufeinig gerllaw.

Ar un adeg roedd mwyngloddio glo, haearn a chopr yn bwysig yn yr ardal.


WalesNeathPortTalbot.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato