Ystalyfera

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
CymruCastellnedd.png
Smotyn Coch.gif

Pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Ystalyfera, wedi ei leoli ger cyd-lif yr afonydd Twrch a Thawe, tua 18 milltir i'r gogledd o Abertawe. Datblygodd Ystalyfera yn ystod y deunawfed ganrif, gyda gwaith haern pwysig a sawl pwll glo wedi ei leoli yno. Fodd bynnag, gyda dirywiad diwydiant gwaithgynhyrchu, bu sawl newid cymdeithasol a demograffaidd yn Ystalyfera, sydd bellach ymlith y 100 cymuned mwyaf amddifad yng Nghymru yn ôl Mynegrif Aml-amddifadedd Cymru.

Mae gan Ystalyfera nifer o gapeli a thafarndai adnabyddus, gan gynnwys y Wern Fawr, sydd wedi ennill gwobrau am y cwrw a fragir ar y safle. Mae dylanwad Buddy Holly yn gryf ar enwau'r cwrw hyn.

Ar ochr ddeheuol y pentref saif ardal Y Graig Arw a Phant-teg, sy'n cysylltu Ystalyfera â Godre'r-graig.

Yn y gorffennol, roedd cylch Ystalyfera yn enwog am lysenwau lliwgar y trigolion.

Addysg [golygu]

Mae yna ddwy ysgol yn y pentref: Ysgol Gynradd y Wern, ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Dolenni allanol [golygu]

  • [1] Gwêfan Ysgol Gyfun Ystalyfera


WalesNeathPortTalbot.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato