Baglan, Castell-nedd Port Talbot

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baglan.
Maes Clwb Rygbi Baglan.

Mae Baglan yn hen bentref a phlwyf cynt sydd nawr yn rhan o dref Porth Afan ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot ar ochr ddwyreiniol Bae Abertawe yn ne Cymru. Mae gan ardal cymuned Baglan 6,488 o drigolion, 10% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Enwyd y pentref ar ôl Sant Baglan. Bu Sant Baglan yn cael ei ddysgu ym mynachlog Llanilltud Fawr gan Illtud, fel Dewi Sant a llawer o seintiau eraill. Fel nhw aeth allan i sefydlu mynachdai eraill. Mae ei enw ar bentrefi Baglan a Llanfaglan.

Mae Baglan ar lethrau Mynydd Baglan. Rhwng Baglan a'r môr mae ardal Bae Baglan, ardal dywydog sydd wedi bod yn gartref i ddywidiant ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweithfeydd cemegol BP Baglan Bay yn amlwg i bawb am ddegawdau ond nawr maen nhw wedi cael eu disodli gan ddiwydiannau amgen modern fel rhan o ddatblygiad Parc Ynni Baglan.

[golygu] Enwogion

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill