Y Creunant
Pentref a chymuned yng Nghwm Dulais ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Y Creunant, hefyd Crynant. Saif tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd ac i'r de o bentref Blaendulais, ar y briffordd A4109.
Mae Afon Dulais yn llifo heibio iddo, gyda Mynydd Marchywel i'r gorllewin, Hirfynydd i'r dwyrain a Mynydd y Drum i'r gogledd.
Roedd Treforgan ar un adeg yn bentref ar wahan, ond erbyn hyn mae'n rhan o'r Creunant. Adral lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gyntaf, Maes Mawr, yn 1874. Roedd glofa Cefn Coed yn nodedig fel y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd ar un adeg. Mae Amgueddfa Glofa Cefn Coed ar safle hen lofa Blaenant, oedd yn estyniad o lofa Cefn Coed.
Aberafan · Aberdulais · Abergwynfi · Alltwen · Baglan · Banwen · Bedd y Cawr · Blaendulais · Blaen-gwrach · Blaengwynfi · Bryn · Castell-nedd · Cil-ffriw · Cilmaengwyn · Cilybebyll · Y Clun · Y Creunant · Cwmafan · Cwm-gors · Cwmllynfell · Cymer · Dyffryn Cellwen · Efail-fach · Glyncorrwg · Glyn-Nedd · Godre'r-graig · Gwaun-Cae-Gurwen · Llandarcy · Llangatwg · Llan-giwg · Llansawel · Margam · Melin-cwrt · Morfa Glas · Onllwyn · Pentreclwydau · Pontardawe · Pontrhydyfen · Port Talbot · Pwll-y-glaw · Resolfen · Rheola · Rhos · Rhyd-y-fro · Sgiwen · Tai-bach · Ton-mawr · Tonna · Trebannws · Ynysmeudwy · Ystalyfera