Blaendulais

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Blaendulais (Saesneg: Seven Sisters). Saif tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd, ar y briffordd A4109 a ger Afon Dulais, sy'n tarddu ychydig i'r gogledd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,032.

Ardal lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gan Evan Evans-Bevan yn 1875, a chafodd yr enw Seven Sisters Colliery ar ôl saith merch Evans-Bevan. Yn 1945 roedd y lofa'n cyflogi 759 o ddynion. Agorwyd nifer o byllau glo eraill; Nant-y-Cafn neu Dillwyn yn 1884, Henllan 1911 a Brynteg yn 1885. Caewyd glofa'r Seven Sisters yn 1963.

Enwogion [golygu]


WalesNeathPortTalbot.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato