Abaty Nedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adfeilion Abaty Nedd
Safle Abaty Nedd

Abaty Sistersaidd oedd Abaty Nedd neu Abaty Glyn Nedd, a sefydlwyd yn ystod ymosodiad y Normaniaid ar dde-ddwyrain Cymru. Yn 1129 rhoddodd Richard de Granville diroedd eang rhwng Afon Nedd ac Afon Tawe i Abaty Savigny yn Ffrainc. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd abaty gerllaw'r castell Normanaidd yng Nghastell Nedd. Ar y dechrau, nid oedd yn dŷ Sistersaidd, ond unodd urdd Savigny ag Urdd y Sistersiaid yn 1147.

Amcangyfrifwyd gwerth yr abaty fel £236 yn asesiad 1291, y cyfoethocaf o dai Sistersaidd Cymru. Ail-adeiladwyd yr abaty tua'r un flwyddyn. Bu diwyrwiad yn ystod y 14eg a'r 15fed ganrif, ond yn gynnar yn y 16eg ganrif bu adferiad dan yr abad Leyshon Thomas. Diddymwyd yr abaty yn 1539; yr adeg honno roedd saith mynach a Leyshon Thomas ei hun. £132 oedd yr amcangyfrif o werth yr abaty.

Mae'r gweddillion yng ngofal Cadw, ac er ei bod wedi adfeilio, mae'n un o'r esiamplau gorau o dŷ Sistersaidd sydd i'w weld yng Nghymru heddiw.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120

Gweler hefyd[golygu]