Y Gnoll

Oddi ar Wicipedia
Y Gnoll
Mathcastell, plasty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 17 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.660501°N 3.793554°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y plasdy yw hwn. Gweler hefyd Parc Gwledig y Gnoll. Am yr hen stadiwn rygbi gweler Y Gweilch.

Plasdy ger Castell-nedd yn ne Cymru yw Y Gnoll. Daw ei enw o'r bryn coediog y tu ôl iddo. Bu'n sedd deuluol y teulu Evans o Gastell-nedd o'r 17g hyd y 19g.

Priododd y diwydiannwr Syr Humphrey Mackworth â Mary, merch Syr Herbert Evans o'r Gnoll, ar ddiwedd yr 17g ac etifeddodd ei wraig llawer o'r ystâd. Bu'n arloeswr y diwydiant glo yn Ne Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu'r diwydiant copr yno hefyd. Codwyd y prif dŷ gan eu disgynydd gan Syr Herbert Mackworth yn 1776-8 ; y pensaer oedd John Johnson o Gaerlŷr. Adeilad Sioraidd oedd hwn. Cynlluniwyd gerddi helaeth yn y cyfnod yma hefyd, yn cynnwys terasau, lawntiau a ffynhonnau ; mae'r cyfan yn rhan o Barc Wledig y Gnoll heddiw.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato