Southport
Oddi ar Wicipedia
Cyfesurynnau: 53°38′43″N 3°00′30″W / 53.6454°N 3.0083°W
| Southport | |
Stryd Lord, Southport |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 90,336 |
|---|---|
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | SOUTHPORT |
| Cod deialu | 01704 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Gogledd Orllewin Lloegr |
| Senedd y DU | Southport |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref lan-môr ym Mwrdeisdref Fetropolitaidd Sefton, Glannau Merswy, Lloegr yw Southport. Lleolir y dref ar lan Môr Iwerddon, 16.5 milltir (26.6 km) i'r gogledd o Lerpwl a 14.8 milltir (23.8 km) i'r de-orllewin o Preston. Mae Caerdydd 241.5 km i ffwrdd o Southport ac mae Llundain yn 307.4 km. Y ddinas agosaf ydy Preston sy'n 22.4 km i ffwrdd.
Mae gan Southport boblogaeth o tua 100,000, gyda chanran uchel yn bobl wedi ymddeol. Yn hanesyddol, bu'n rhan o Swydd Gaerhirfryn.
Mae atyniadau twristaidd yn cynnwys Pier Southport, yr ail fwyaf o'i fath yng ngwledydd Prydain, Stryd Lord (Lord Street), a fu'n gartref i Napoleon III o Ffrainc, a ffair enwog a agorwyd yn 1912.
Enwogion[golygu]
- Owen Rhoscomyl. Ganed yr awdur yn Southport yn 1863, ond fe'i magwyd yn Nhremeirchion, Sir y Fflint.
Dolenni allanol[golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Saesneg) Gwefan y Swyddfa Dwristiaeth