Evesham
Cyfesurynnau: 52°05′N 1°57′W / 52.09°N 1.95°W
| Evesham | |
Gerddi Abaty Evesham |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 22,304 |
|---|---|
| Swydd | Swydd Gaerwrangon |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | EVESHAM |
| Cod deialu | 01386 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Gorllewin Canol Lloegr |
| Senedd y DU | Mid Worcestershire |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref yn Swydd Gaerwrangon yn Lloegr yw Evesham. Fe'i lleolir rhwng Caerwrangon, Cheltenham a Stratford-upon-Avon, ar lan Afon Avon, sy'n llifo trwy'r Vale of Evesham. Mae Caerdydd 108.2 km i ffwrdd o Evesham ac mae Llundain yn 142.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caerwrangon sy'n 21.6 km i ffwrdd.
Mae'n dref farchnad gyda thyfu llysiau a ffrwythau yn bwysig i'r economi.
Ymladdwyd Brwydr Evesham ar y 4ydd o Awst 1265; lladdwyd Simon de Montfort yno, cynghreiriad Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Yma hefyd roedd Abaty Evesham, un o'r rhai mwyaf yn Ewrop yn ei gyfnod: dim ond Clochdy'r Abad Lichfield sy'n aros. Dywedir i Abaty Evesham gael ei sefydlu gan Sant Egwin, trydydd Esgob Caerwrangon. Penodwyd y Cymro Lewis Bayly, awdur The Practice of Piety (1611), yn ficer Evesham yn 1600, lle daeth hefyd yn brifathro'r ysgol ramadeg; apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1616.