Giorgio Chinaglia
Oddi ar Wicipedia
Pêl-droediwr Eidalaidd oedd Giorgio Chinaglia (Ynganiad Eidaleg: [ˈdʒordʒo kiˈnaʎʎa]; 24 Ionawr 1947 – 1 Ebrill 2012).[1] Cafodd ei fagu yng Nghaerdydd a chwaraeodd dros Dref Abertawe o 1964 hyd 1966. Dychwelodd i'r Eidal i chwarae dros Massese, Internapoli a S.S. Lazio. Ymunodd â thîm cenedlaethol yr Eidal a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd 1974. Ym 1976, ymunodd â'r New York Cosmos.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Mario Risoli (3 Ebrill 2012). The amazing journey of Giorgio Chinaglia from South Wales schoolboy to Italian national hero. WalesOnline.co.uk.