Kenny Morgans
Oddi ar Wicipedia
Pêl-droediwr Cymreig oedd Kenneth Godfrey Morgans (16 Mawrth 1939 – 18 Tachwedd 2012).
Fe'i ganwyd yn Abertawe a phan adawodd yr ysgol ym 1955, fe arwyddodd i Manchester United. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Manchester United yn nhymor 1957-58. Roedd yn bresenol yn ystod trychineb awyr Munich ble daeth yn gaeth dan un o olwynion yr awyren am tua phum awr cyn cael ei achub.[1]
Gwnaeth 23 ymddangosiad dros Manchester United cyn gadael y clwb yn 1961.[2] Aeth ymlaen i chwarae dros Abertawe a Newport County cyn ymddeol yn 1967.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Marw un o Gymry Munich. Golwg360 (19 Tachwedd 2012).
- ↑ Un o oroeswyr Trychineb Munich, Kenny Morgans, wedi marw. BBC (19 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2012.