Port Láirge

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y ddinas ac Afon Suir gyda'r nos

Dinas yn ne-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon a phrif ddinas Swydd Waterford yw Port Láirge (Saesneg: Waterford). Hi yw pumed dinas Gweriniaeth Iwerddon o ran maint, gyda phoblogaeth o 49,240 yn 2006.

Sefydlwyd y ddinas gan y Llychlynwyr yn 914; daw'r enw Saesneg o'r enw Llychlynnaidd Veðrafjǫrðr. Saif ar Afon Suir, ac mae wedi bod yn borthladd pwysig ers canrifoedd. Yn y 19eg ganrif roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig, ond mae'r ddinas yn fwyaf adnabyddus am ei gwydr; mae Waterford Crystal yn adnabyddus trwy'r byd.