John Charles

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
John Charles: Cymru yn erbyn Yr Alban, Parc Ninian, 1954
John Charles

Roedd John Charles (27 Rhagfyr 1931 - 21 Chwefror 2004) yn chwaraewr pêl-droed o Abertawe — y chwaraewr gorau mae Cymru erioed wedi'i gynhyrchu, yn ôl rhai.

Gyrfa[golygu]

Fe'i ganwyd yng Nghwmdu, ger Abertawe, a bu'n chwarae dros glwb pêl-droed Leeds United o 1949 i 1957. Yn ystod yr adeg hon, fe sgoriodd 150 o goliau, gan gynnwys 42 o goliau yn y tymor 1953-1954.

Ym 1957 fe'i trosglwyddwyd i'r tîm enwog Eidalaidd, Juventus, am dâl o £65,000, a oedd yn record ar y pryd. Bu'n chwarae dros Juventus am bum mlynedd, gan sgorio 93 o weithiau mewn 155 o gêmau. Enillodd y scudetto (pencampwriaeth y cynghrair Eidalaidd) dair gwaith, a'r Cwpan Eidaleg ddwywaith. Ei lysenw yn yr Eidal oedd Il Gigante Buono, neu Y Cawr Caredig, gan na chafodd ei rybuddio na'i anfon o'r cae trwy gydol ei yrfa.

Ar ôl iddo adael Juventus ym 1962, chwaraeodd dros glwb Leeds United eto, ac A.S. Roma yn yr Eidal, a gorffennodd ei yrfa gyda chlwb Dinas Caerdydd.

Chwaraeodd John Charles am y tro cyntaf dros dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru pan oedd yn 18 mlwydd a 71 diwrnod o oedran. Charles oedd calon tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden pan gollodd Cymru y rownd chwarter-derfynnol 1-0 i dîm Brasil, enillwyr y twrnamaint—ni chwaraeodd Charles yn y gêm hon oherwydd anaf.

Tra'n hybu llyfr ym Milano yn yr Eidal ym mis Ionawr 2004, fe ddioddefodd drawiad ar y galon, a bu'n rhaid torri rhan o'i droed cyn ei hedfan yn ôl i Loegr. Yn gynnar ar fore Dydd Sadwrn, 21 Chwefror, bu farw yn ysbyty Pinderfields yn Wakefield.

Roedd ei frawd Mel Charles hefyd yn beldroediwr rhyngwladol.

Cyfeiriadau[golygu]