Kinshasa
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo yw Kinshasa (Léopoldville tan 1966). Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad ar lan ddeheuol Afon Congo. Saif Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo, ar y lan gyferbyn. Mae Kinshasa yn un o ddinasoedd mwyaf Affrica gyda phoblogaeth o fwy na 7 miliwn.
Fe'i sefydlwyd fel canolfan fasnachol yn 1881 gan Henry Morton Stanley a enwodd y ddinas ar ôl Léopold II, brenin Gwlad Belg. Daeth Léopoldville yn brifddinas trefedigaeth Congo Felgaidd yn ystod y 1920au. Newidwyd ei henw i Kinshasa yn 1966 gan Mobutu Sese Soko.
