Nantclwyd y Dre
Tŷ a gychwynwyd yn 1435 gerllaw'r castell yn Rhuthun, Sir Ddinbych ydyw Nantclwyd y Dre, neu Tŷ Nantclwyd fel y'i gelwid cyn 2007. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.[1] Mae'r lle'n agored i'r cyhoedd ac yn gyrchfan twristiaeth poblogaidd.
Gronw ap Madog a adeiladodd y tŷ gwreiddiol gyda'i arian fel gwehydd, masnachwr a nyddwr cyfoethog. Ychwanegwyd cryn dipyn ato dros y blynyddoedd a bu'n gartref i ddau glerc, crwner, pobydd a bragwr. Yna, yn 1571 prynwyd y tŷ gan Thomas Wynn ap John ap Harry, ac ymestynwyd y tŷ gan iddo brydlesu gardd fawr yn y cefn. Etifeddodd ei fab Simon Parry'r cartref; cyfreithiwr oedd ef, y cyntaf i droi'r 'ap Harry' i'r cyfenw 'Parry'. Ef a adeiladodd Plas Nantclwyd yn Llanelidan, rhyw ddwy filltir o dref Rhuthun. Tua'r adeg yma y rhoed yr enw 'Nantclwyd' ar y lle. Gwnaeth hefyd welliannau mawr i'r tŷ.
Wiliam oedd ail fab Simon ac iddo ef yr aeth y ddau 'Nantclwyd' a hynny yn 1605. Cyfreithiwr oedd yntau, fel ei dad, a phriododd Martha Thelwall ac yna Mary, merch Plas Bodidris. Cafodd blentyn ganddi o'r enw Mary, ac yn 1653 priododd Eubule Thelwall.
Bu cenedlaethau o'r Wynniaid yn berchnogion hefyd rhwng 1722 a 1925. Edward Wynne o Blas Uchaf, Llannefydd oedd y cyntaf ac yn 1797 gosododd y Wynniaid y tŷ i denantiaid megis ffermwyr, bragwyr, meddyg a chyfreithiwr. Rhwng 1886 ac 1893 ysgol i foneddigesau ifanc oedd yr adeilad. Yna bu'n reithordy ac yn dŷ i farnwr.
Mae pob ystafell wedi eu adfer i gyfnod arbennig, ac yn un o'r adeiladau canoloesol gorau sydd ar agor i'r cyhoedd.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ 'Nantclwyd y Dre' gan Christopher J. Williams a Dr. Charles Kightly; Cyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, Haf 2007