Crug Cae Gwynach

Oddi ar Wicipedia
Crug Cae Gwynach
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhuthun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.111981°N 3.308653°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ125580, SJ1258158061 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE105 Edit this on Wikidata

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Cae Gwynach, Perllan yr Arglwydd, Rhuthun, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ125580.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE105.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Gellir ei weld o gefn tŷ bwyta "Yr Hen Sinema" yn Stryd y Ffynnon. Mae RCAHMW yn ei gysylltu gyda'r castell gerllaw gan fynnu mai mwnt canoloesol ydyw[2]; saif ym mherllan y castell, ger y pwll pysgod. Mae Cadw ar y llaw arall yn dweud mai crug crwn cynhanesyddol ydyw.[3] Mae'n 20 metr mewn diamedr ac yn 1.2m o uchder.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. [1][dolen marw]
  3. "gwybodaeth Cadw ar wefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-07.
  4. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-07.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]