Canolfan Grefft Rhuthun
Oddi ar Wicipedia
Saif Canolfan Grefftau Rhuthun yn nhref Rhuthun, Goledd Cymru. Mae ganddi ddeg stiwdio, a chrefftwr ym mhob un wrth eu gwaith yn chwythu gwydr, atgyweirio dodrefn, trin clai ayb
Dymchwelwyd y ganolfan wreiddiol yn 2007 a chodwyd yr un presennol yng ngorffennaf 2008; roedd y gost o'i chodi yn 4.3 miliwn o bunnoedd. Fel rhan o'r cynllun hwn codwyd hefyd le bwyta o safon a galeri i arddangos gwaith celf a siop fechan. Mae yma hefyd ganolfan ymwelwyr o fewn y ganolfan.[1]