Ysgol Rhuthun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adeladwyr ysgol "fonedd" Rhuthun yn 1892.

Mae Ysgol Rhuthun yn ysgol breifat yn nhref Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae'r adeilad presenol dros gant oed, ond mae'r ysgol yn un o'r hynaf ym Mhrydain: dros 700 o flynyddoedd.

Hanes[golygu]

Ni wyddom yr union ddyddiad y sefydlwyd yr ysgol, rhywdro ar ôl 1282. Y dyddiad a dderbynir yn fwyaf cyffredin ydy 1284, a hynny efo arian Reginald de Grey.[1] Sonir yn Taxatio 1291 fod yma goleg llewyrchus wed'i gysylltu â'r eglwys.

Gabriel Goodman[golygu]

Yn 1574, cododd Gabriel Goodman, Deon Westminster, adeilad deulawr o galchfaen fel adeilad pwrpasol yng nghysgod Eglwys Sant Pedr. Yn 1595 neu 1561, o dan gyfarwyddyd Goodman, cyfeiriwyd arian y Degwm o blwyf Llanelidan ac at ddefnydd yr ysgol.

Addysg[golygu]

Ymarefr côr

Cafwyd adroddiad yn ddiweddar gan Estyn, i safonau'r addysg yn yr ysgol; ymateb y pennaeth, Mr. Belfield, oedd: "The Independent Schools' Inspectorate report was very favourable and commented most positively on not only the academic achievements, but also the demeanour and positive attitude of the pupils." [2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ruthin School: The First Seven Centuries", awdur: Keith Kenyon-Thompson]
  2. www.ruthinschool website; accessed 11/06/2014