Llanllwchaearn, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Llanllwchaiarn
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth848 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,728.78 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1936°N 4.34279°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000387 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Llanllwchaearn, Powys.

Cymuned yng Ngheredigion yw Llanllwchaearn (Saesneg: Llanllwchaiarn). Saif i'r de o dref Cei Newydd, ac mae'n cynnwys pentrefi Maen-y-groes, Cross Inn, Pentre'r Bryn, hen blwyf Llanina ac ardal Cydblwyf, gan gynnwys rhan o Gilfachreda.

Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 786.

Mae'n rhannu ward etholiadol gyda chymuned Llandysiliogogo i'r gorllewin. Cross Inn yw'r pentref mwyaf poblog gyda thafarn a nifer o siopau, gan gynnwys swyddfa'r post rhan amser. Ar ôl ymgyrch lwyddiannus gan y trigolion lleol, ceuwyd Ysgol Llanllwchaearn yn Rhagfyr 2009, ynghyd â dwy ysgol yng nghymuned Llandysiliogogo, er mwyn sefydlu ysgol newydd sbon ar gyfer yr 21ain ganrif - Ysgol Bro Siôn Cwilt ger Y Synod.

Serch mewnfudo trwm ers canol yr 1980au mae'r Gymraeg yn dal ei thir yn Llanllwchaearn. Y Gymraeg yw prif iaith bywyd cymdeithasol y gymuned ac yn 2001 roedd 52% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg. Ceir nifer o gymdeithasau bwyiog ac yn eu plith: Adran yr Urdd Bro Siôn Cwilt, Clwb Clocsio Bro Siôn Cwilt, Clwb Ffermwyr Ifanc Caerwedros, Cymdeithas Ddiwylliadol Maen-y-groes, Y Ffordd Ymlaen, cangen o Ferched y Wawr y Bryniau a Sefydliad y Merched. Gwasanaethir y gymuned gan dri chapel annibynnol ym Maen-y-groes, Nanternis a Brynrhiwgaled ynghyd ag Eglwys y Drindod, Cross Inn.