Rhyd Chwima

Oddi ar Wicipedia
Rhyd Chwima
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.576516°N 3.171357°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Rhyd Chwima ar Afon Hafren ger Aberriw, tua 2.5 milltir i'r gogledd-orllewin o Drefaldwyn, Powys. Mae'n rhyd hanesyddol a fu'n groesfan am ganrifoedd lawer. Yn y 13g daeth i ddynodi'r ffin rhwng Tywysogaeth Cymru annibynnol a Theyrnas Lloegr ac yn fan cyfarfod i gynnal trafodaethau rhwng Tywysog Cymru a Brenin Lloegr. Ystyr chwima yw 'chwim'; cyfeiriad at lif y dŵr. Ceir y ffurfiau Rhydwhiman a Rhydwhyman hefyd mewn ffynonellau hynafiaethol.

Mae'n debyg fod y rhyd yn groesfan strategol ers cyfnod y Rhufeiniaid os nad cynt. Fymryn i'r gogledd ceir caer Rufeinig Ffordun ac mae'n rhesymol tybio mai gwarchod Rhyd Chwima oedd un o'r rhesymau am leoli'r gaer yno. Yn Llyfr Dydd y Farn, a wnaed ar orchymyn Gwilym Goncwerwr yn 1086, cofnodir treflan ger y gaer wrth yr enw Horseforde ('Rhyd y ceffylau'). Rhyd Chwima oedd enw'r Cymry am y lle, ac erbyn y 13g roedd y Saeson yn ei adnabod fel the ford of Montgomery neu, mewn dogfennau Lladin, vadum aquae de Mungumery ('rhyd Trefaldwyn').[1]

Yma, "wrth y rhyd", y cyfarfu Llywelyn ap Gruffudd a Harri III o Loegr ar 29 Medi 1267 i gadarnhau Cytundeb Trefaldwyn, cytundeb a welodd y brenin Seisnig yn cydnabod safle Llywelyn fel Tywysog Cymru gyda'r hawl i wrogaeth pob tywysog ac arglwydd yn y Gymru annibynnol. Gwnaed hynny ym mhresenoldeb Ottobuono, llysgenad y Pab.[2]

Parhaodd y rhyd fel croesfan bwysig hyd at ail hanner y 19g. Codwyd pont ger y rhyd a daeth ei gyrfa fel croesfan hanesyddol i ben.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bro Trefaldwyn, gwefan CPAT.
  2. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 153-6.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]