Llansanffraid Glan Conwy

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Glan Conwy)
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°16′05″N 3°47′46″W / 53.268°N 3.796°W / 53.268; -3.796

Llansanffraid Glan Conwy
Who has stolen the river at Glan Conwy? - geograph.org.uk - 1917182.jpg
Dyffryn Conwy
Llansanffraid Glan Conwy is located in Cymru
Llansanffraid Glan Conwy

Llansanffraid Glan Conwy Cymru
Poblogaeth 2,290 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SH8075
Cymuned Llansanffraid Glan Conwy
Sir Conwy
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Bae Colwyn
Rhanbarth cod post LL28
Cod deialu 01492
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Aberconwy (etholaeth seneddol)
Cynulliad Cymru Aberconwy (etholaeth Cynulliad)
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •

Pentref a chymuned yw Llansanffraid Glan Conwy, weithiau Llansantffraid Glan Conwy neu dim ond Glan Conwy, yn sir Conwy. Yn ogystal a'r brif Llan mae'r cymuned yn cynwys trefgorddau Pentrefelin a Dolwyd.

Saif y gymuned ar lan ddwyreiniol Afon Conwy, ychydig i'r de i bentref Cyffordd Llandudno a'r pontydd dros yr afon Conwy. Mae'r briffordd A470 yn arwain trwy'r pentref ac mae yno orsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy.

Hanes[golygu]

Cafodd y Llan ei sefydlu, yn ôl traddodiad, pan wnaeth Sant Ffraid hwylio o'r Iwerddon ar dywarchen a glanio ar lan yr Afon Conwy, tua chwarter milltir i'r gorllewin o'r eglwys bresennol. Fodd bynnag, mae cofnodion yn dangos bod y plwyf wedi ei greu gan Maelgwyn Gwynedd yn y 5ed ganrif, a bod pum maenor frenhinol wedi cael eu rhoi i'r eglwys i greu'r plwyf. Mae'r rhain yn cael eu cofio yn enwau'r pum trefgordd sy'n goroesi hyd heddiw, Trellan, Trebwll, Tre Trallwyn, Tre Deunant a Phen y Rhos.

Dydd nawddsant y plwyf yw Chwefror y cyntaf [1], pryd ddisgwylir i'r plwyfolion dangos teyrngarwch i'r nawddsant trwy osod corsennau wrth eu drysau. Hen enw ar gorsennau yw "cawn" sydd yn rhoi'r enw i'r afon (cawn/wy duw'r gorsen) ac yn awgrymu bod yr arfer o osod corsennau yn hŷn na'r arfer o glodfori'r Sant Cristionogol.

Economi[golygu]

Yn hanesyddol prif ddiwydiannau'r pentref oedd amaethyddiaeth, docio sych a siandlera ar gyfer porthladd Conwy. Pan adeiladwyd pontydd Telford (1826) a Stephenson (1848) cafodd y pentref ei ddatgysylltu o'r môr mawr a dechreuodd cyfnod o ddirywiad. Heddiw, mae'n bentref dormitary, mae'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth un ai wedi ymddeol neu'n bobl sy'n cymudo i'r gwaith. Mae Parc Busnes Cae Ffwt, a leolir ar ochr yr A470, wedi dod yn ganolfan i ychydig o fusnesau bach a sefydlwyd yn y pentref.

Llywodraeth[golygu]

Mae'r Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy yn cynnwys deuddeg o aelodau, chwech o bob un o'r ddwy ward, Bryn Rhys a Fforddlas[2]. Mae'n cynrychioli pobl leol ac mae'n gyfrifol am gynnal prosiectau lleol.

Gwneuthuriad gwleidyddol y Cyngor presennol yw naw aelod annibynnol, un Ceidwadwr, un Democrat Rhyddfrydol ac un Plaid Cymru. Megis y rhan fwyaf o gynghorau cymunedol Cymru, prin yw'r sawl sy'n cael eu hethol i'r cyngor mewn etholiadau cystadleuol[3]

Llefydd o addoliad[golygu]

Bryn Ebeneser - Llansanffraid Glan Conwy - geograph.org.uk - 1434717

Mae gan y plwyf ei heglwys sydd wedi ei noddi i'w mabsant, Eglwys San Ffraid, sydd yn perthyn i'r Eglwys yng Nghymru ac yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Ym 1905 roedd y capeli anghydffurfiol canlynol yn wasanaethu'r plwyf hefyd: [4]

Enw Enwad Rhif yr Aelodau
Salem Fforddlas Bedyddwyr 250
Bryn Ebeneser Methodistiaid Calfinaidd 250
Croesengan Methodistiaid Calfinaidd 60
Moriah Methodistiaid Calfinaidd 100
Bryn Rhys Annibynwyr 69
Carmel Wesleaid 35
Tyn'y Celyn Wesleaid 36

Mae pob un ond Salem Fforddlas a Bryn Ebeneser wedi eu cau bellach.

RSPB[golygu]

Ychydig i'r gogledd o'r pentref ceir gwarchodfa adar Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o Gyffordd Llandudno i gyffiniau'r pentref. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.

Pobl o Lan Conwy[golygu]

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansanffraid Glan Conwy (pob oed) (2,196)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansanffraid Glan Conwy) (765)
  
35.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansanffraid Glan Conwy) (1283)
  
58.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llansanffraid Glan Conwy) (354)
  
35.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/crefydd-dweud/tudalen/110201.shtml
  2. http://glanconwy.btck.co.uk/
  3. New Glan Conwy Cllr Alwyn Ap Huw has branded local elections a mockery on his blogadalwyd 9 Rhagfyr 2014
  4. "Welsh Church Commission: County of Denbigh The Statistics of the Nonconformist Churches for 1905."
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: